Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydedd Eisteddfod i Dr Hefin Jones

30 Ebrill 2018

Hefin Jones
Dr Hefin Jones

Mae Dr Hefin Jones, o Ysgol Y Biowyddorau, wedi ennill medal Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad gydol oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yn derbyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg mewn seremoni arbennig yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd ym mis Awst.

Disgrifiodd yr Eisteddfod Dr Jones fel "darlithydd ysbrydoledig sydd wedi cyfrannu'n helaeth at ystod eang o gyrsiau gradd megis Ecoleg, Sŵoleg, Bioleg a Microbioleg".

Fe'i canmolwyd hefyd am ei waith ymchwil ar effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar fioamrywiaeth.

Penodwyd Dr Jones yn uwch-ddarlithydd yng Nghaerdydd yn 2000 yn dilyn cyfnodau ymchwil mewn sefydliadau eraill gan gynnwys Coleg Imperial Llundain.

Ers ei benodi, mae wedi helpu i ddatblygu darpariaeth Gymraeg mewn cyrsiau gradd yn Ysgol y Biowyddorau, ac mae wedi darparu cyfleoedd dros y blynyddoedd i fyfyrwyr meddygol y Brifysgol astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers 2011, mae Hefin wedi bod yn Ddeon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru.

Mae hefyd yn llais ac yn wyneb hynod gyfarwydd ar raglenni Cymraeg ar y radio a’r teledu, ac mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar faterion gwyddonol mewn ystod eang o gyhoeddiadau Cymraeg.

Dywedodd Dr Jones: "Mae derbyn y fedal hon yn anrhydedd fawr. Mae wedi bod yn hynod bwysig i mi fedru cyflwyno gwyddoniaeth yn fy iaith gyntaf. Mae dyfarnu Medal Wyddoniaeth yn yr Eisteddfod yn pwysleisio bod y Gymraeg yn fodd bywiog, byw a chyfoes o gyfathrebu. Dylai’r Gymraeg gael ei chroesawu, nid ei hamau, nid yn unig mewn trafodaethau hanesyddol a llenyddol, ond hefyd mewn trafodaethau ar y datblygiadau gwyddonol, technegol a meddygol diweddaraf.”

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mae Caerdydd rhwng 3-11 Awst.

Rhannu’r stori hon