Ewch i’r prif gynnwys

Carreg filltir sylweddol i Tafwyl

26 Mehefin 2015

Crowd show at Tafwyl festival

Mae Gŵyl flynyddol yng Nghaerdydd a noddwyd gan y Brifysgol, yn dathlu carreg filltir sylweddol

Mae disgwyl i agos i 25,000 o bobl i ddod i'r degfed Tafwyl, a leolir ar safle Castell Caerdydd.

Cynhelir yr ŵyl ar 4 a 5 Gorffennaf ac mae'n cynnig cerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, drama, comedi a chwaraeon ochr yn ochr â stryd bwyd a diod.

Mae mynediad i'r castell yn rhad ac am ddim ac mae gwahoddiad i bawb, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio.

Mae is-ŵyl o bwys yn cael ei chynnal o 26 Mehefin sy'n cynnwys digwyddiadau ledled y ddinas gan gynnwys gigiau, celf, animeiddio a gweithgareddau i blant.

Y Brifysgol yw prif noddwr Tafwyl, ac mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i'r Gymraeg.

Mae'r nawdd tair blynedd o hyd yn adeiladu ar gysylltiadau'r Brifysgol gyda'r ŵyl a'i threfnydd, Menter Caerdydd, sy'n hyrwyddo defnydd o'r iaith yng nghymunedau Caerdydd.

Dechreuodd Tafwyl yn 2006 ac mae wedi tyfu'n sylweddol dros y degawd diwethaf.

Mae digwyddiad eleni'n cynnwys ail ddiwrnod yn y Castell oherwydd y galw a'r arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cefnogir y digwyddiad gan lysgenhadon fel Alex Jones (One Show), Rhys Patchell (Gleision Caerdydd), Matthew Rhys (Actor) a Huw Stephens (Cyflwynydd ar BBC Radio 1).

Mae gan wasanaeth newyddion digidol Cymraeg Pobl Caerdydd – a gefnogir gan brosiect ymgysylltu Newyddiaduraeth Gymunedol y Brifysgol – stondin yn y digwyddiad.

Os oes gennych newyddion neu farn ynghylch beth sy'n digwydd yn y ddinas, ewch i'r stondin a rhowch wybod i'r tîm neu holi sut gallwch gymryd rhan. Lansiwyd Pobl Caerdydd yn Tafwyl yn 2013.

Bydd y Brifysgol yn amlwg eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a gynhelir rhwng 1 ac 8 Awst ym Meifod yn Sir Drefaldwyn, Powys.

Ewch i'n pabell neu galwch heibio i wylio neu gymryd rhan yn ein sgyrsiau, trafodaethau a digwyddiadau.

Rhannu’r stori hon