Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Phoenix yn rhoi hwb i sgiliau astudio

25 Mehefin 2015

Students at computer

Cyn bo hir, bydd myfyrwyr ym Mhrifysgol Namibia (UNAM) yn elwa ar gefnogaeth ychwanegol yn ystod eu hastudiaethau o ganlyniad i brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd

Mae Gwasanaeth Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn cydweithio â gwasanaeth cyfatebol yn Namibia i wella sgiliau astudio ymhlith myfyrwyr fel rhan o Brosiect Phoenix.

Bydd Ann McManus, sy'n cynnal cynlluniau sgiliau academaidd a mentora myfyrwyr yng Nghaerdydd, yn hedfan i Namibia cyn bo hir i hyfforddi 30 o staff llyfrgelloedd UNAM.

Bydd staff UNAM wedyn yn gallu hyfforddi eu cydweithwyr a byddant hwythau'n gallu rhannu eu gwybodaeth â myfyrwyr.

Bydd yr hyfforddiant sgiliau astudio yn canolbwyntio ar ysgrifennu academaidd, meddwl yn feirniadol, cymryd nodiadau, adolygu a thechnegau mewn arholiadau.

Fis Medi, bydd staff llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd yn hyfforddi staff cyfatebol yn UNAM mewn sgiliau fel chwilio am ymchwil, catalogio ac e-ddysgu.

Byddant hefyd yn datblygu sgiliau addysgu gyda thîm Dr Clare Kell sy'n cynnig Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu yn y Brifysgol.

Bydd Dr Alastair Sloan o'r Ysgol Deintyddiaeth yn cynnig cefnogaeth hefyd drwy helpu i ddatblygu sgiliau ymchwil sylfaenol myfyrwyr UNAM.

Dywedodd Ann: "Mae staff UNAM am adeiladu ar eu portffolio sgiliau, gan sicrhau bod gan bob myfyriwr sy'n wynebu staff a'r holl fyfyrwyr ar draws y Brifysgol, y sgiliau angenrheidiol i gwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus a chystadlu yn y gweithlu.

"Gan fod staff llyfrgelloedd yn ymateb fel arfer i ymholiadau am sgiliau astudio gan fyfyrwyr, tybiwyd mai nhw ddylai gael hyfforddiant yn y lle cyntaf.

"Gellir wedyn addasu'r wybodaeth hon ar gyfer y cyd-destun lleol a'i rhannu ymhlith aelodau eraill o staff y llyfrgell ac yna i lawr i'r myfyrwyr, gan greu dull cynaliadwy sy'n sicrhau bod myfyrwyr mewn gwell sefyllfa i gwblhau eu hastudiaethau'n llwyddiannus."

Mae manteision amlwg i staff Prifysgol Caerdydd hefyd fydd yn cael cyfle unigryw i weithio gyda chydweithwyr o Namibia sydd yn yr un maes proffesiynol â nhw.

Mae Prosiect Phoenix, sy'n cefnogi Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNAM ac mae o fudd i'r naill ochr fel y llall.

Mae gan staff o dri Choleg Prifysgol Caerdydd rôl uniongyrchol, yn ogystal â staff gwasanaethau proffesiynol.

Mae'r prosiect yn cwmpasu tri maes cyffredinol: menywod, plant a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; a chyfathrebu.

Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol yng Nghaerdydd a Merthyr, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.

Rhannu’r stori hon