Ewch i’r prif gynnwys

Gwelliannau sydd eu hangen wrth ofalu am bobl sy’n byw gyda dementia yn yr ysbyty

26 Ebrill 2018

Image of a man in a hospital bed

Mae nyrsys a gweithwyr gofal iechyd yn bryderus iawn am gleifion sy'n agored i niwed sy’n cyfateb a 3.2 miliwn o welyau ysbyty bob blwyddyn, yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r ymchwiliad ethnograffig manwl tair blynedd cyntaf ar draws Cymru a Lloegr yn edrych ar y gofal a gaiff pobl sy'n byw gyda dementia pan gânt eu derbyn i ysbytai gyda chyflwr acíwt. Mae’n dangos darlun anobeithiol o ddad-dynoli, staff yn gorweithio a lleoliad nad yw'n diwallu anghenion yr her gynyddol hon sy’n wynebu’r GIG.

Mae pobl gyda chyflwr acíwt, sydd hefyd â dementia, yn llenwi rhwng 25 a 50% o holl welyau ysbyty y GIG.

Mae argymhellion yr astudiaeth yn awgrymu newidiadau syfrdanol i drefniadaeth wardiau, ymyriadau a hyfforddiant, a’r gofal a ddarperir ym mhob gwely os yw'r GIG am ymateb i anghenion y boblogaeth gynyddol o gleifion.

Canfu'r tîm fod gofynion targedau, asesiadau risg, ac arferion ward llym ac amserlenni gofal wrth y gwely ar hyn o bryd yn dominyddu gwaith bob dydd staff y ward, ac yn eu hatal rhag darparu’r gofal wrth erchwyn gwely sydd ei angen ar bobl sy'n byw gyda dementia. O ganlyniad, mae cleifion sy'n byw gyda dementia yn dioddef cylch hunan-barhaol o bryder, ac mae hyn yn ei dro yn cael effaith emosiynol sylweddol ar staff.

Mae argymhellion yr ymchwil yn cynnwys atebion heb gost a chost isel y gellir eu hintegreiddio yn hawdd i’r dulliau presennol o ran trefniadaeth a gofal nyrsio wrth y gwely.

Canfu'r adroddiad hefyd bod diagnosis dementia yn bwrw cysgod dros ofal ac yn ei ddominyddu, gan effeithio ar benderfyniadau sy'n ymwneud â llwybrau trin a rhyddhau.

Mae Dr Katie Featherstone a'i thîm o Brifysgol Caerdydd, wedi’u hariannu gan yr NIHR, wedi nodi lefelau uchel o ymwrthedd i ofal ymhlith pobl sy'n byw gyda dementia.  Ar ryw adeg wrth gael eu derbyn i’r ysbyty, gwrthododd pob person a arsylwyd yn ystod yr ymchwiliad y gofal. Roedd yr ymwrthedd yn tarddu o anawsterau a oedd ganddynt wrth gyfathrebu eu hanghenion, pryder a dryswch. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod yr ymatebion hyn yn deilio o'r ffordd yr oedd y gofal wedi'i drefnu a’i ddarparu wrth y gwely.

"Mae lefelau ymwrthod uchel a chyson o’r fath ymhlith cleifion, a gwrthod gofal a thriniaeth, wedi arwain at ein casgliad dadleuol bod arddulliau wardiau presennol o ddarparu gofal yn wrthgynhyrchiol ac yn bwrw cysgod dros anghenion unigol cleifion sensitif sy'n cael trafferth mynegi eu hanghenion. Mae hefyd yn andwyol i staff y ward, na chânt eu cefnogi na’u darparu â’r sgiliau i ofalu amdanynt", meddai Dr Featherstone.

Un o'r prif ymatebion ward i ymwrthod â gofal oedd dal ac atal pobl sy'n byw â dementia – yn lle argymhellion arfer gorau ar gyfer gofal sy’n canolbwyntio ar y person a’r ffaith bod angen i gleifion oedrannus a bregus allu symud o gwmpas er mwyn eu helpu i adsefydlu.

Mae gan Ymddiriedolaethau ddiwylliant cynyddol o gontractio gofal dementia allan i staff asiantaeth nad ydynt wedi’u hyfforddi i ofalu am bobl sy'n byw gyda dementia, neu i dîm bach o ‘weithwyr dementia’ arbenigol, lle caiff eu harbenigedd ei ymestyn ar draws poblogaeth ysbyty mawr Roedd hyn yn golygu bod cael arbenigedd mewn gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia yn cael ei ystyried gan staff y ward fel 'gwaith pobl eraill'.

Mae'r adroddiad yn galw am ail-feddwl y diwylliant o gontractio gofal dementia allan gyda mwy o ffocws ar wella hyfforddiant a datblygu trefniadaeth wardiau a gofal wrth erchwyn y gwely sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, a’r staff ar y wardiau.

Rhannu’r stori hon