Ewch i’r prif gynnwys

Angen camau brys i ddiogelu’r rhyngrwyd i bawb, yn ôl arbenigwr

26 Ebrill 2018

Image of people walking about in a world surrounded by streams of data

Rhaid i arweinwyr y byd ddod ynghyd i wneud yn siŵr nad yw technolegau newydd yn dod yn fodd o beri niwed, yn ôl academydd dylanwadol ym maes llywodraethu’r rhyngrwyd.

Mae Dr Andrea Calderaro – sy’n gweithio yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y Brifysgol – yn credu bod mabwysiadau dull mwy cydlynol ar ran y rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw cyfathrebu cyfrifiadurol yn peryglu llywodraethau, cwmnïau neu unigolion.

Yn ôl cyfarwyddwr y Ganolfan Gwleidyddiaeth Fyd-eang a’r Rhyngrwyd: “Mae materion sy’n ymwneud â diogelwch seiber – a’r modd yr ymdrinnir â’r mater allweddol hwn yn y ddadl ehangach ynghylch llywodraethu’r rhyngrwyd – yn rhai difrifol, ac nid ydynt am ddiflannu. Mae’r honiadau ynghylch Cambridge Analytica a Facebook, a dadleuon am sut y defnyddir data yn rhan o ddechrau trafodaeth ehangach ynghylch llunio polisi digidol.

“Mae gan y rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol, rhyngrwyd pethau, a deallusrwydd artiffisial, botensial aruthrol ac yn rhan enfawr o fywyd modern. Serch hynny, fel y mae digwyddiadau diweddar wedi dangos, mae’r modd y defnyddir y llwyfannau hyn yn codi llawer o gwestiynau brys. Mae’n rhaid i leisiau sy’n dod i’r amlwg o wledydd sydd newydd eu cysylltu ddatblygu ymwybyddiaeth o'r materion hyn, a chael lleisio eu barn.”

“Mae'n hanfodol bod y rheini sy’n gwneud penderfyniadau am sut y mae pobl yn cyrchu’r rhyngrwyd yn cydweithio’n agos er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn parhau’n adnodd sydd o fudd i bawb.”

Caiff cwestiynau ynghylch sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer cynyddu capasiti diogelwch seiber cynaliadwy eu trafod gan academyddion allweddol a gwneuthurwyr polisïau yn ystod cynhadledd a gynhelir yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth Fyd-eang a’r Rhyngrwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon. Eleni, mae’r gynhadledd amlddisgyblaethol ar Ffactorau, Rheoliadau, Trafodion a Strategaethau Llywodraethu’r Rhyngrwyd Fyd-eang (GIGARTS18) – o dan gadeiryddiaeth Dr Calderaro – yn mynd i'r afael â “Goresgyn anghydraddoldebau ym maes Llywodraethu’r Rhyngrwyd: llunio strategaethau datblygu polisïau digidol”.

Bydd cynrychiolwyr o’r Comisiwn Ewropeaidd, Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad y DU, Chatham House, yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (ITU), ICANN, UNESCO, DiploFoundation a Chomisiwn Byd-eang ar Sefydlogrwydd y Seiberofod, yn bresennol. Yn ogystal â chlywed barn ysgolheigion allweddol, bydd ganddynt y cyfle i drafod sut y gallant gydweithio i ateb rhai o'r problemau mwyaf dybryd sy’n gysylltiedig â diogelwch seiber.

Dywedodd Dr Calderaro – fu’n rhoi tystiolaeth yn ddiweddar ym Mhwyllgor Cysylltiadau Tramor Tŷ’r Arglwyddi – wrth fynd i'r afael â’r gydberthynas rhwng seiberddiogelwch a pholisi tramor: “Dyma’r gynhadledd gyntaf sy’n mynd ati o ddifrif i geisio nodi beth sydd ei angen i gynyddu capasiti seiber.

“Bydd dod ag academyddion blaenllaw a gwneuthurwyr polisïau ynghyd yn helpu i ffurfio strategaethau unedig i gefnogi gwledydd sydd newydd eu cysylltu wrth iddynt ffurfio eu fframweithiau polisi digidol, a datblygu eu rôl weithredol ymhellach yn y drafodaeth fyd-eang gyffredinol ynghylch llywodraethu’r rhyngrwyd.”

Yn ystod y gynhadledd, bydd cyfle i drafod canlyniadau rhagarweiniol dau brosiect allweddol y mae’r Ganolfan Gwleidyddiaeth Fyd-eang a’r Rhyngrwyd yn cyfrannu tuag atynt. Llawlyfr Adeiladu Capasiti Seiber yr UE – sydd i’w ryddhau gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn hir – fydd y tro cyntaf i’r comisiwn ddarparu canllawiau ar sut i gynyddu capasiti seiber yn fyd-eang.

Bydd Dangosyddion Cyffredinolrwydd y Rhyngrwyd UNESCO yn helpu i fesur cynnydd gwlad wrth gyflawni egwyddorion allweddol yn seiliedig ar hygyrchedd a chynhwysiant.

Mae rhagor o wybodaeth am y gynhadledd ar gael yn: https://www-npa.lip6.fr/gig-arts/conference/programme/

Rhannu’r stori hon