Ewch i’r prif gynnwys

Ffigurau trais difrifol ar gyfer 2017

25 Ebrill 2018

Image of police tape

Er gwaethaf yr achosion niferus o drais cyllyll a lladd yn Llundain, mae’r darlun cenedlaethol o drais difrifol ar gyfer 2017 yn debyg iawn i'r flwyddyn flaenorol, yn ôl adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r astudiaeth yn edrych ar ddata yn ôl oedran a rhyw ac mae’n seiliedig ar sampl gwyddonol o 94 o adrannau achosion brys, unedau mân anafiadau a chanolfannau galw heibio yng Nghymru a Lloegr. Mae pob un yn aelodau ardystiedig o'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Goruchwylio Trais (NVSN), sydd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol dros y 17 mlynedd diwethaf.

Yn ôl yr Athro Jonathan Shepherd, un o awduron yr astudiaeth, o'r Grŵp Ymchwilio i Drais ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae ein hastudiaeth yn dangos mai ychydig o newid a gafwyd mewn anafiadau'n gysylltiedig â thrais o 2016, gyda 1% yn unig o gynnydd i ddynion a menywod yn 2017. Fodd bynnag, rhwng 2010 a 2016, rydym wedi gweld bod angen triniaeth ar o ddeutu 40% yn llai o bobl mewn adrannau achosion brys ar ôl trais.

"Rydym yn gobeithio nad yw'r ffigurau disymud eleni yn duedd newydd ac y byddwn yn parhau i weld gostyngiad mewn trais difrifol y flwyddyn nesaf."

Ar y cyfan, amcangyfrifir bod 190,747 o bobl wedi mynd i adrannau achosion brys am driniaeth yng Nghymru a Lloegr yn dilyn achos o drais yn 2017, 1942 yn fwy nag yn 2016.

Cafwyd cynnydd o 11% yn nifer yr ymweliadau’n gysylltiedig â thrais gan blant 0-10 oed ag adrannau achosion brys, er bod niferoedd isel yn golygu bod y canfyddiad hwn yn ansicr.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, dynion rhwng 18 a 30 oed oedd y rhai oedd fwyaf tebygol o gael anaf sy’n gysylltiedig â thrais.

Dyddiau Sadwrn a Sul ac yn ystod misoedd yr haf oedd yr adegau pan oedd pobl yn mynd i unedau achosion brys amlaf ar ôl achos o drais, gyda'r nifer uchaf ym mis Gorffennaf. Misoedd Ionawr a Chwefror oedd â'r niferoedd isaf.

Ychwanegodd yr Athro Shepherd: "Mae ein canfyddiadau'n awgrymu hefyd bod trais sy'n gysylltiedig ag alcohol yn parhau'n broblem sylweddol, gyda'r niferoedd sy'n mynd i adrannau achosion brys ar eu huchaf yn gyson ar benwythnosau. Wrth i alcohol ddod yn fwy fforddiadwy, mae'r perygl hwn o drais yn gysylltiedig ag alcohol yn debygol o gynyddu."

Er nad yw’r astudiaeth yn ystyried pam y bu gostyngiad cyson mewn trais difrifol, mae’r adroddiad yn cyfeirio at nifer o resymau posibl. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau gwell o ganfod troseddau difrifol ac adrodd amdanynt, plismona sy'n cael ei dargedu'n well, yr adrannau achosion brys yn rhannu data’n well, a chydweithio lleol rhwng asiantaethau i fynd i’r afael â thrais ar y strydoedd ac mewn mannau trwyddedig.

Mae'r Set Data Gofal Brys, a gyflwynwyd mewn Adrannau Brys yn Lloegr ym mis Hydref 2017, wedi gwella ansawdd yr wybodaeth iechyd cyhoeddus sy'n hanfodol ar gyfer atal trais.

Rhannu’r stori hon