Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda Chyfieithu

17 Ebrill 2018

Translation

Ym mis Mawrth, lansiwyd pedwaredd sesiwn cwrs ar-lein rhad ac am ddim sy’n amlygu pwysigrwydd cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn y gymdeithas amlieithog sydd ohoni.

Cafodd cwrs MOOC, Gweithio gyda Chyfieithu, ei lansio’n gyntaf yn 2016 ac ers hynny, mae wedi llywio gwybodaeth dros 30,000 o ddysgwyr ar draws y byd. Mae 500 o bobl wedi ymrestru i fod yn rhan o’r garfan bresennol a ddechreuodd ar 19 Mawrth 2018 ac sy’n rhedeg am chwe wythnos.

O iechyd i'r system gyfiawnder, o’r sector gwirfoddol i chwaraeon a'r celfyddydau, yr ydym i gyd yn byw ac yn gweithio’n fwyfwy mewn cyd-destunau lle mae pobl yn siarad mwy nag un iaith.

Mae cyfieithu yn broffesiwn sy’n dyddio’n ôl i'r trydydd mileniwm BCE ac mae’n o’r gweithgareddau dynol mwyaf sylfaenol sy’n ein galluogi i ryngweithio â'n gilydd o fewn ac ar draws diwylliannau. Rydym i gyd yn dod i gysylltiad â chyfieithu yn ein bywyd bob dydd, p’un a ydym yn siarad llawer o ieithoedd neu un iaith yn unig.

Mae’r rhifyn cyfredol o Gweithio gyda Chyfieithu yn fenter ar y cyd rhwng rhaglen Astudiaethau Cyfieithu yr Ysgol Ieithoedd Modern a chydweithwyr ym Mhrifysgol Namibia – UNAM, oedd yn bartneriaid allweddol yn y prosiect Trawswladoli Ieithoedd Modern:Heriau Byd-eang, o dan nawdd cynllun GCRF AHRC.

O ganlyniad, mae’r cwrs yn siarad i o ogledd a de’r byd fel ei gilydd, gan amlygu pwysigrwydd cyfieithu a dehongli yn y cymdeithasau amlieithog presennol, ni waeth pa gyfandir y gallwn fod arno.

Mae rhagor o wybodaeth am y cwrs ar gael ar wefan Future Learn.

Rhannu’r stori hon