Ewch i’r prif gynnwys

Q5 yn ymuno â Medicentre Caerdydd

16 Ebrill 2018

Q5

Nod Q5 Healthcare cynnig dull mwy effeithlon o ddiagnosio heintiau, a’u trin.

Mae'r cwmni wedi ymleoli yn y cyfleuster sy’n eiddo ar y cyd i Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae’r fferyllydd meddyginiaethol Dr Raj Rao a Phennaeth Datblygu Clinigol Q5, Dr Helen Hughes yn datblygu cyfres o becynnau prawf diagnostig at ddefnydd meddygon teulu a chlinigau.

Bydd y pecynnau hyn yn helpu gweithwyr meddygol proffesiynol ledled y byd i glustnodi heintiau claf wrth gam gofal heb gynnal rhagor o ymchwiliadau neu brofion labordy.

Yn ôl Dr Michael Graz, Cyfarwyddwr Q5 Healthcare ac arbenigwr mewn clefydau heintus, “Mae ein prif weithgaredd ar hyn o bryd ym meysydd iechyd personol menywod a heintiau systemig acíwt, lle mae diagnosis anghywir o glefydau heintus yn aml yn arwain at bennu triniaeth anghywir a chanlyniadau gwael yn sgil y driniaeth honno, o bosibl.”

Mae Q5 Healthcare yn paratoi ar gyfer masnacheiddio. Mae patent ddyfais gyntaf y cwmni wedi cyrraedd y cam cyhoeddi rhyngwladol yn ddiweddar, a bwriedir lansio’r cynnyrch ar ddechrau 2019. Mae o leiaf pedwar cynnyrch diagnostig arall ar y gweill.

Bydd y cwmni yn gweithio gyda chwmni arloesol ym Mhontypridd i gynhyrchu ei ddyfais diagnostig cyntaf. Bydd yr holl weithgynhyrchu a marchnata yn digwydd yng Nghymru, ac mae Q5 yn gobeithio recriwtio gwyddonwyr a staff lleol yn y dyfodol.

Yn ôl Dr Justin John, Swyddog Meithrin Busnesau yn Medicentre Caerdydd,“ Mae gan Medicentre Caerdydd hanes balch o feithrin busnesau sydd wedi gwneud datblygiadau meddygol sylweddol a nodi ffyrdd gwell o ddarparu gofal iechyd. Mae Q5 yn gwmni arall o'r fath. Rydym yn falch iawn o weithio gyda Dr Rao a Dr Hughes, ac edrychwn ymlaen yn fawr at gefnogi tîm Q5 wrth iddo symud tuag at fasnacheiddio.”

Mae’r Partneriaeth Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn fenter greadigol sy'n ceisio rhoi gofal iechyd gwell i gleifion a chreu cyfoeth yng Nghymru. Mae'r llawfeddyg ymgynghorol Jared Torkington yn cadeirio Tîm Amlddisgyblaethol y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol.

Yn ôl Jared: “Gweithio gyda busnesau newydd a busnesau bach a chanolig i ddatblygu a darparu buddion yn gyflym i gleifion yw un o ddelfrydau craidd Partneriaeth Arloesedd Caerdydd ac rydym wrth ein boddau i fod yn gweithio gyda Q5.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.