Ewch i’r prif gynnwys

Dull gwell o drosglwyddo cyffuriau gwrth-ganser

17 Ebrill 2018

Nanotubes

Gallai dull diwenwyn newydd o ddarparu cyffuriau canser i rannau penodol o’r corff dynol olygu diwedd sgîl-effeithiau difrifol a chas sy’n gysylltiedig â nifer o therapïau canser, yn ôl ymchwilwyr yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.

Mae'r dull yn golygu defnyddio math newydd o nanodiwb – tiwb bychan a ddefnyddir mewn nifer o achosion, gan gynnwys trosglwyddo cyffuriau.

Mae’r math newydd hwn – a gafodd ei ddylunio a’i greu gan Dr Ben Newland ym Mhrifysgol Caerdydd – wedi’i wneud o’r polymer diwenwyn o'r enw poly(ethylene glycol).  Yn wahanol i nanodiwbiau presennol, all achosi gwenwyndra fel asbestos, mae’r fersiynau newydd hyn yn feddal, yn hyblyg ac yn biogydnaws, sy’n golygu y gall y corff yn eu gwrthsefyll yn dda.

Y gred yw nid yn unig y gallai datblygu’r nanodiwb newydd hwn gynnig gwell ffordd o drosglwyddo cyffuriau gwrth-ganser, ond y gallai arwain at lawer llai o sgîl-effeithiau hefyd.

Y rheswm dros hynny yw bod llawer o gyffuriau a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn cemotherapi i drin gwahanol fathau o ganser, yn cael eu trosglwyddo drwy gyfrwng chwistrelliad i lif y gwaed. Er bod y cyffuriau hyn yn cyrraedd celloedd canser, maent hefyd yn cael effaith niweidiol ar gelloedd holliach gan achosi amrywiaeth o sgîl-effeithiau garw, gan gynnwys colli blew, teimlo’n gyfoglyd a blinder llethol.

Mae gan y nanodiwb newydd y potensial i’w chwistrellu i ran penodol o’r corff, sy'n golygu na fydd gweddill y corff, i raddau helaeth, yn profi effaith y cyffuriau gwrth-ganser gwenwynig.

Er mwyn archwilio hyn ymhellach, cynhaliwyd gwaith ymchwil yn edrych ar ba mor effeithiol y gallai’r nanodiwb newydd hwn fod wrth drin canser y fron.  Cafodd cyffur o'r enw Doxorubicin ei drosglwyddo drwy’r nanodiwb a’i gymharu â’r un dos o’r un cyffur sy’n cael ei chwistrellu i lif y gwaed.

Datgelodd y canfyddiadau ostyngiad yng nghyfradd y metastasis (lledaeniad y canser) a chyfradd twf y tiwmor o drosglwyddo drwy’r nanodiwb, gan roi gobaith i’r tîm ymchwil y gallai datblygu’r nanodiwb newydd arwain at ffyrdd mwy effeithlon o drin canser yn y dyfodol.

Wrth siarad am y canfyddiadau hyn, dywedodd Dr Ben Newland o Brifysgol Caerdydd: “Wrth ddatblygu math newydd sbon o nanodiwb, rydym yn torri tir newydd.  Rydym wrth gamau cynnar y gwaith ymchwil hwn, ond mae'n gyffrous i feddwl am y gwelliannau posibl yn y ffordd y caiff cyffuriau eu trosglwyddo.”

Mae’r prosiect ymchwil yn gydweithrediad rhwng Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd Ysgol Fferylliaeth, sefydliad ymchwil Polymer Leibniz yn Dresden a Phrifysgol Strathclyde, ac mae wedi’i ariannu gan Ymddiriedolaeth Welcome.

Cyhoeddir manylion llawn yr ymchwil hwn mewn erthygl sy’n dwyn y teitl ‘Soft and flexible poly(ethylene glycol) nanotubes for local drug delivery’ yng nghyfnodolyn Nanoscale.