Ewch i’r prif gynnwys

Trafod data

13 Ebrill 2018

Data event

Mae’r chwyldro digidol wedi dechrau. Yn ein heconomi ddigidol sy’n tyfu’n gyflym, mae data yn adnodd hanfodol wrth ddefnyddio ac esblygu meysydd dysgu peirianyddol a dadansoddeg uwch sy’n troi data digidol yn effeithiau busnes a chymdeithasol gwerthfawr.

Bydd siaradwyr o fyd diwydiant a'r byd academaidd yn trin a thrafod rhai o'r themâu hyn ac yn rhannu rhai o'r datblygiadau diweddaraf yn ‘Gwyddoniaeth data a dadansoddeg: bylchau sgiliau a chyfleoedd i arloesi’. Cynhelir y digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd, ddydd Mercher 18 Ebrill 2018.

Meddai’r Athro Roger Whitaker, Deon Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Prifysgol Caerdydd:

"Gan fod diwydiannau yn cynhyrchu llawer iawn o ddata, mae angen cynyddol am sgiliau a thechnolegau ar gyfer rheoli, cadw, dadansoddi a deall y wybodaeth hon. Rhaid i fusnesau, prifysgolion a llywodraethau gydweithio er mwyn creu atebion ymarferol sy’n diwallu anghenion cyfredol yn ogystal â pharhau i ddatblygu ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal, yn ôl adroddiadau megis Skills of the Datavores gan Nesta, mae cwmnïau sy’n cael eu llywio gan ddata dros 10 y cant yn fwy cynhyrchiol na’r rheini sy’n ‘ofni’ data. Tynnodd sylw hefyd at y prinder sgiliau ac anallu’r ‘Defnyddwyr Data Dyfal’ – cwmnïau sy'n gwneud defnydd trwm o ddata ar gyfer ysgogi penderfyniadau busnes – i recriwtio. Ochr yn ochr â’r bwlch sgiliau hwn, mae gwaith academyddion a chyrff cyhoeddus eraill fel y Tech Partnership, y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol (RSS), Sefydliad Nuield, yr Academi Brydeinig a DataLab yn yr Alban, yn cyflwyno tystiolaeth hynod o bwerus sy’n dangos cysylltiad cryf rhwng data, arloesedd busnes a chynhyrchiant. Yn ôl dadansoddiad techUK gallai’r DU greu rhwng 2.7 a 3.5 miliwn o swyddi newydd erbyn 2030, ac angen sgiliau digidol arnynt oll.

Meddai Dave Johnson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfnewidfa Partneriaethau a Chyfnewid Gwybodaeth, Campws y Gwyddorau Data, SYG: “Mae’r amgylchedd sy’n newid yn gyson a’r ffaith fod ffynonellau data newydd ar gael ac yn cael eu mabwysiadu’n gynyddol gyflym, yn golygu bod angen i’r DU ddeall ac addasu er mwyn cystadlu, yn enwedig ar ôl Brexit.

"Cafodd Campws y Gwyddorau Data yn Swyddfa’r Ystadegau Gwladol ei greu i ymateb i'r her hon. Ei nod yw defnyddio technolegau a ffynonellau data newydd i gynnig ystadegau cyfoethocach ac amser real ar gyfer llunwyr polisïau a busnesau ynghylch economi a chymdeithas yn y DU sy'n newid yn gyflym.

"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i rannu gwybodaeth am wyddoniaeth data gyda'r gymuned fusnes drwy ein partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd"

Cewch fynd i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae rhaid cadw lle. Caiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Cadwch le yma.

Trefnir y digwyddiad gan Rwydwaith Arloesedd y Brifysgol, sydd wedi hyrwyddo rhyngweithio rhwng byd byd busnes a’r Brifysgol ers dros ddau ddegawd. Dathlir 20fed pen blwydd Gwobrau Arloesedd ac Effaith yr haf hwn.

Rhannu’r stori hon

Digwyddiadau rhwydweithio am ddim i bobl fusnes, academyddion a'r rheini sy'n gweithio ar gyfer sefydliadau cefnogi busnes, megis cynghorau lleol neu Lywodraeth Cymru.