Ewch i’r prif gynnwys

Cylchrediad yr Iwerydd yn wannach nag ers dros 1500 o flynyddoedd

12 Ebrill 2018

North Atlantic Circulation

Mae'n bosibl fod modelau efelychu sy'n rhagweld hinsawdd y dyfodol ar y Ddaear yn goramcangyfrif sefydlogrwydd un o batrymau cylchredeg pwysicaf y cefnfor, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae tîm rhyngwladol, gan gynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, wedi gwneud y mesuriadau cynhwysfawr cyntaf o gryfder cylchrediad Gogledd Cefnfor yr Iwerydd, sy'n dangos ei fod ar ei wannaf ers dros 1500 o flynyddoedd.

Mae’r patrwm cylchdroi'r cefnfor hwn, sy'n gweithredu fel cludfelt i ddod a dŵr cynnes i'r DU, wedi gwanhau'n sylweddol dros y 150 mlynedd ddiwethaf, dywed gwyddonwyr, sy'n cyd-fynd â diwedd yr Oes Iâ Fach yn 1850 AD a dechrau'r chwyldro diwydiannol.

Yn ystod y cyfnod hwn mae rhewlifoedd wedi toddi a gwelwyd mewnlifiad o ddŵr croyw i'r cefnforoedd, gan achosi aflonyddwch sylweddol i geryntau'r cefnfor ac o bosibl effeithio'n ddramatig ar hinsoddau ar draws Gogledd America a Gorllewin Ewrop.

Mae cylchrediad Gogledd Cefnfor yr Iwerydd, a elwir hefyd yn Gylchrediad Gwrthdroi Meridianaidd yr Iwerydd (AMOC) yn gyfrifol am gludo dŵr cynnes, ac yn ei sgil gynnal amodau hinsawdd mwyn yng Ngorllewin Ewrop a rheoleiddio patrymau cefnforol sy'n bwysig i fywyd morol.

Mae'r AMOC yn allweddol i hinsawdd y byd, a gallai arafu sydyn sbarduno pob math o aflonyddwch ar draws y byd. Gallai hyn gynnwys codiad sydyn mewn lefelau morol rhanbarthol, newidiadau mewn patrymau glawiad mawr a safleoedd parthau hinsawdd cras a'r potensial am rewi yn ystod gaeafau ar draws Gorllewin Ewrop.

Mae'r astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature, wedi dangos bod yr AMOC presennol yn eithriadol o wan, ac y gallai'r modelau rydym ni'n eu defnyddio ar hyn o bryd i ragfynegi ein hinsawdd yn y dyfodol fod yn tanamcangyfrif ei sefydlogrwydd.

Meddai’r Athro Ian Hall, cyd-awdur yr ymchwil, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd: "Mae effaith mewnlifiadau dŵr croyw ar gylchrediad y cefnfor a sefydlogrwydd yr hinsawdd yn ystod cyfnod yr Oes Iâ ddiwethaf wedi'u cofnodi'n dda, ond mae ein canlyniadau'n dangos yn glir y cafwyd newid sylweddol yn ystod y gorffennol diweddar.

"Mae goblygiadau pwysig i'r canfyddiadau hyn ar gyfer ymchwil yn y dyfodol oherwydd eu bod yn cynorthwyo ein dealltwriaeth am gwmpas newid hinsawdd a'r ffordd mae'n digwydd.  Bydd hwn yn amlwg yn darged defnyddiol ar gyfer asesu'r modelau a ddefnyddir i ragfynegi patrymau newid hinsawdd yn y dyfodol."

"Wrth efelychu digwyddiadau hinsawdd hanesyddol, mae ein canlyniadau'n awgrymu naill ai  nad yw’r modelau newid hinsawdd blaenllaw yn ddigon sensitif i newidiadau yn yr amgylchedd naturiol, fel mewnlifiadau dŵr croyw, neu nad ydynt yn cynnwys yr holl brosesau perthnasol," dywedodd awdur arweiniol yr astudiaeth Dr David Thornalley o Goleg y Brifysgol Llundain.

"O ystyried nad yw modelau hinsawdd yn cofnodi'r digwyddiadau rydym ni'n adrodd arnynt yn llawn, rhaid i ni ofyn: beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y dyfodol, a sut mae hyn yn berthnasol i'r newidiadau a ddisgwylir gyda chynhesu byd-eang?"

I ymchwilio i amrywiadau yn yr AMOC, archwiliwyd newidiadau ym maint gronynnau gwaddod a adawyd gan gerrynt yn nwfn yn y môr er mwyn dod i gasgliadau am newidiadau'r gorffennol yng nghryfder y cylchdroi.

Roedd yr ymchwil hefyd yn cynnwys gwyddonwyr o Sefydliad Eigionegol Woods Hole a Phrifysgol Reading.