Ewch i’r prif gynnwys

Mae ‘Peint o Wyddoniaeth’ yn dychwelyd i dafarnau Caerdydd

11 Ebrill 2018

Pint of Science
Organisers of the Planet Earth themed events at the first Pint of Science festival in Cardiff.

Bydd gwyddoniaeth yn bwnc llosg mewn tafarnau yng Nghaerdydd y gwanwyn hwn wrth i ŵyl fwyaf y byd o sgyrsiau cyhoeddus ar wyddoniaeth ddychwelyd i’r brifddinas am yr eildro.

Yn ystod ‘Peint o Wyddoniaeth Caerdydd’, bydd 30 o wyddonwyr yn camu i’r llwyfan mewn amryw o dafarndai ledled Caerdydd i gynnal sgyrsiau sy’n hwyl, yn rhyngweithiol ac yn ennyn diddordeb, wrth sôn am eu pwnc ymchwil.

Bydd ymwelwyr yn y digwyddiad uwchben eu digon ag amserlen lawn dop o sgyrsiau, o’r ymchwil ddiweddaraf yn y frwydr yn erbyn clefyd Huntington i esboniad gwyddonol ynghylch pam nad yw dod o hyd i gariad ar-lein yn gweithio.

Yn ôl un o’r ymchwilwyr sy’n cymryd rhan, Dr Emma Yhnell o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Ar ryw adeg yn ein bywydau rydym i gyd yn gleifion ac ni ddylai fod ofn arnom ofyn cwestiynau, holi gwyddonwyr, ac yn bwysicaf oll, dysgu rhywbeth newydd. Mae Peint o Wyddoniaeth yn caniatáu i'r cyhoedd ymgysylltu â gwyddonwyr a thrafod eu hymchwil mewn amgylchedd anffurfiol a hamddenol.”

Ynghyd â'r prif sgyrsiau, bydd pob noswaith hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau hwyliog yn ymwneud â gwyddoniaeth gan gynnwys posau geeky, straeon difyr a gweithgareddau rhyngweithiol eraill.

Bydd y digwyddiad tri diwrnod o hyd yn cael ei gynnal ar yr un pryd mewn dros 100 o ddinasoedd ar draws 12 o wledydd rhwng 14 a 16 Mai 2018.

Bydd gwyddonwyr Caerdydd yn siarad mewn tafarndai, gan gynnwys y Philharmonic, Tiny Rebel a 10-Feet Tall, gyda thocynnau yn costio £4 yn unig. Mae’r tocynnau, ynghyd ag amserlen lawn o ddigwyddiadau, ar gael o heddiw ymlaen ar wefan Peint o Wyddoniaeth (pintofscience.co.uk).

Sefydlwyd Peint o Wyddoniaeth chwe blynedd yn ôl gan grŵp o ymchwilwyr ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol yn y DU ac mae wedi tyfu i fod yn un o wyliau gwyddoniaeth mwyaf y byd.

Mae’r sylfaenwyr, Dr Praveen Paul a Dr Michael Motskin, wedi cyflwyno elfen bersonol i wyddoniaeth, gan roi cyfle i bawb gwrdd â'r bobl y tu ôl i'r ymchwil anhygoel sy’n cael ei chynnal ar draws y byd.

“Mae cymaint o ymchwil gyfareddol yn cael ei chynnal o dan ein trwynau, nad ydym yn gwybod amdani,” meddai cyd-sylfaenydd yr ŵyl, Dr Paul.

“Gall rhai fynd ar goll yn yr eglurhad, gan arwain at newyddion ffug. Mae Peint o Wyddoniaeth yn cynnig mynediad uniongyrchol i bobl at wyddonwyr ysbrydoledig ac yn annog trafodaeth agored, ac mae’r cyfan yn digwydd yn y lle mwyaf cyfarwydd ym Mhrydain, y dafarn. Mae gwyddonwyr yn yfed peintiau hefyd – dydyn nhw ddim mor wahanol â hynny.”

Rhannu’r stori hon