Ewch i’r prif gynnwys

Albwm Cerddorfa Symffoni yn cael ei adolygu yn The Times

10 Ebrill 2018

Cardiff University Symphony Orchestra playing in Cardiff's Hoddinott Hall

Mae City of Light: New Discoveries, albwm a ryddhawyd gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd, wedi derbyn adolygiad 4* gan Geoff Brown o The Times.

Mae’r albwm yn cynnwys y recordiadau cyntaf erioed o ddau ddarn o waith gan Debussy. Cafodd y gweithiau - Prélude à l'histoire de Tristan a No-Ja-Li ou Le Palais du Silence - eu gadael yn anorffenedig pan fu farw’r cyfansoddwr ym 1918.

Ers hynny, mae Robert Orledge, arbenigwr blaenllaw ar gerddoriaeth Ffrengig, wedi eu cwblhau a'u trefnu, a chawsant eu perfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2015 fel rhan o wŷl Dinas Golau’r Gerddorfa Ffilharmonia.

Ysgrifennodd Geoff Brown yn The Times, “Y newydd-beth a’m cyffrôdd yr wythnos hon oedd sgôr bale Tsieineaidd Debussy, No-ja-la - darn anorffenedig arall, y bwriadwyd ei berfformio ar lwyfan yn Llundain ar ffurf rifiw ym 1914, ond sydd wedi cael bywyd newydd yn fwy diweddar mewn ail-gread arbennig o effeithiol gan Robert Orledge. Wedi’i berfformio gan gerddorion gwych Prifysgol Caerdydd, hwn yw uchafbwynt City of Light: New Discoveries.

“Rydym yn gyfarwydd â chariad Debussy at yr estron, ond mae awyrgylch dwyreiniol cyflawn y gerddoriaeth hon yn peri syndod o hyd. Mae’r bale, gyda dynwarediadau gamelan yn torri ar ei draws bob hyn a hyn, wedi’i osod mewn palas lle mae siarad wedi’i wahardd, ac yn cloi gyda chorws gorfoleddus o lawenydd. Dyna yn union oedd fy emosiwn i. Ymysg y newydd-bethau eraill ar yr albwm bywiog hwn, a arweiniwyd gan Mark Eager, mae cylch o ganeuon o gyfnod y rhyfel gan André Jolivet (ysywaeth, ni chawsant eu canu’n ddarbwyllol), a phreliwd llawn cymeriad o opera anorffenedig Debussy, Tristan. Oes ganddo goncerto anghofiedig i’r piano yn gorwedd yn rhywle hefyd?”

Dywedodd yr arweinydd, Mark Eager: “Dwi wrth fy modd â’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon i gyflawniad gwych. Fel tîm yn yr Ysgol Cerddoriaeth, rydym wedi gweithio’n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i integreiddio’r byd academaidd a pherfformio ar y lefel uchaf, ac mae hyn yn dyst i lwyddiant hynny. Mae’r myfyrwyr yn haeddu’r clod, oherwydd maent yn aml yn mynd ymhellach na gofynion eu cwrs i ymrwymo i gynhyrchu CD fel hyn. Edrychaf ymlaen at ddatblygiad parhaus Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd, sydd ar flaen y gad o ran perfformiadau myfyrwyr rhyngwladol.”

Gan sôn am yr adolygiad, dywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol: “Roedd hwn yn dipyn o gyflawniad gan Mark Eager a Cherddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd. Prin yw’r cerddorfeydd myfyrwyr sy’n rhyddhau CD; prinnach fyth yw’r cyfle i recordio darnau gan gyfansoddwr blaenllaw am y tro cyntaf. Dwi wrth fy modd fod egni a doniau ein cerddorion wedi’u gwobrwyo gyda’r adolygiad gwych hwn yn The Times.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.