Ewch i’r prif gynnwys

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr

19 Mehefin 2015

Chemistry students in lab

Myfyrwyr chweched dosbarth yn mynd o'r ystafell ddosbarth i'r labordy yng Nghynhadledd STEM Prifysgol Caerdydd

Bydd dros 400 o fyfyrwyr o Goleg Chweched Dosbarth Gatholig Dewi Sant yn gweld beth yw gwerth astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) heddiw (19 Mehefin) fel rhan o Gynhadledd STEM flynyddol Prifysgol Caerdydd.

Ymysg y llu o sgyrsiau, gweithdai ac arddangosfeydd ymarferol a gynhelir drwy'r dydd, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adeiladu roced, sut gall mathemateg arbed bywydau, a sut mae mêl o Gymru'n helpu gwyddonwyr i ddatblygu gwrthfiotigau newydd.   

Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael gwybodaeth fanwl am yr amrywiol lwybrau gyrfa ym meysydd STEM, yn ogystal â chyfarwyddyd am sut mae gwneud cais i ddilyn astudiaethau addysg uwch.  Drwy'r dydd, bydd y myfyrwyr yn rhyngweithio â myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, i gael blas ar sut beth yw bywyd yn y brifysgol.

Mae'r Gynhadledd STEM yn rhan o bartneriaeth barhaus rhwng Prifysgol Caerdydd a Choleg Dewi Sant, a'r bwriad yw rhoi safbwynt newydd i fyfyrwyr drwy fynd â nhw o'r ystafell ddosbarth, i amgylchedd lle gallant weld effaith gwyddoniaeth yn uniongyrchol.

Mae gweithgareddau ar y diwrnod hefyd yn cynnwys canllaw i beirianneg, darlith ar beth allwch ei wneud gyda Raspberry Pi, ymchwilio i ba mor dda y gallai amonit nofio, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau'n ymwneud â chemeg, niwrowyddoniaeth, biowyddorau a ffiseg.

Dywedodd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Mae digwyddiadau fel hyn yn dod â gwyddoniaeth a thechnoleg yn fyw. Rydym am ysbrydoli pobl ifanc i ymgysylltu â phynciau STEM, ac mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Coleg Dewi Sant yn ffordd wych o wneud hynny."

Yn ôl Sue Diment, Swyddog Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Caerdydd: "Roedd Cynhadledd STEM y llynedd yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yn dangos beth ellir ei gyflawni drwy weithio'n effeithiol mewn partneriaeth. Eleni, mae'r digwyddiad wedi tyfu i gynnwys mwy o ysgolion academaidd a sefydliadau ymchwil ledled y Brifysgol. Mae arweinwyr y digwyddiad, Dr Chris North, Mrs Cherrie Summers a Dr Fiona Wylie o'r Brifysgol, a Hilary Griffith o Goleg Dewi Sant, wedi gweithio'n galed i ddatblygu'r seilwaith a'r adnoddau a fydd gobeithio'n cefnogi'r Gynhadledd i ddod yn ddigwyddiad allweddol yn rhaglen ymgysylltiad ysgolion flynyddol y Brifysgol."

Rhannu’r stori hon