Ewch i’r prif gynnwys

Mae planhigfeydd olew palmwydd yn effeithio ar rywogaethau y tu allan i ardaloedd datgoedwigo

29 Mawrth 2018

Small frog on a large leaf

Yn ôl ymchwil newydd, nid yw planhigfeydd olew palmwydd yn effeithio ar frogaod Borneo mewn ardaloedd datgoedwigo yn unig, maent hefyd yn effeithio ar rywogaethau mewn cynefinoedd fforest law cyfagos.

Mae ymchwil gydweithredol gan Brifysgol Caerdydd, Canolfan Maes Danau Girang, a Phrifysgol Melbourne, wedi darganfod bod planhigfeydd olew palmwydd yn effeithio ar ardaloedd fforest law cyfagos sydd heb eu cyffwrdd, yn ogystal ag ardaloedd lle mae'r planhigfeydd wedi disodli'r fforestydd.

Roedd yr astudiaeth, a gynhaliwyd yn Borneo, yn archwilio nifer y rhywogaethau broga mewn cynefinoedd coedwig a phlanhigfeydd, ac yn asesu'r newidiadau i'r cymunedau hyn o frogaod ar draws y gwahanol fathau o gynefinoedd.

Dywedodd Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang, Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd a chynghorydd i Adran Bywyd Gwyllt Sabah: "Ar draws De-ddwyrain Asia, mae planhigfeydd olew palmwydd mawr wedi disodli ardaloedd mawr o'r fforestydd glaw, sydd wedi cael effaith negyddol ar rywogaethau'r fforestydd.

"Yn ogystal â'r ffaith bod planhigfeydd amaethyddol fel olew palmwydd yn cefnogi llai o rywogaethau o gymharu â'r fforestydd glaw maent yn eu disodli, maent hefyd yn cael effaith negyddol ar rywogaethau mewn ardaloedd cyfagos – o ganlyniad i rywbeth o'r enw effeithiau ymyl.

"Newidiadau i ddeinameg cymunedau o anifeiliaid neu amrywiaeth rhywogaethau sy'n digwydd wrth ffiniau cynefinoedd yw effeithiau ymyl. Gall yr effeithiau hyn fod yn sylweddol os yw strwythur cynefin yn newid yn sydyn rhwng dau wahanol fath o gynefin."

Tan yn ddiweddar, nid oed gennym lawer o wybodaeth am effeithiau planhigfeydd olew palmwydd ar amffibiaid mewn ardaloedd cyfagos. Ond mae'r ymchwil newydd wedi ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o effeithiau posibl gweithgarwch amaethyddol ar frogaod mewn cynefinoedd fforest law cyfagos.

Dywedodd Dr Sarah Scriven, Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Efrog: "Mae ehangu ein dealltwriaeth o sut gall amaethyddiaeth olew palmwydd effeithio ar rywogaethau'r fforestydd sy'n sensitif i aflonyddwch yn hynod bwysig.

"Mae amffibiaid yn arbennig yn cael eu heffeithio gan aflonyddwch i'w cynefin oherwydd nifer o ffactorau cymhleth sy'n gysylltiedig â'u ffisioleg ac ecoleg benodol.

Canfu'r astudiaeth fod nifer uwch o rywogaethau broga mewn fforestydd o gymharu â safleoedd olew palmwydd, a bod rhywogaethau nad oes pryderon cadwraeth yn eu cylch yn dominyddu safleoedd planhigfeydd.

Roedd cynefinoedd y fforestydd yn cefnogi rhywogaethau sy'n unigryw i Borneo a mwy o rywogaethau sy'n byw mewn coed o gymharu â phlanhigfeydd olew palmwydd.

Dywedodd Dr Graeme Gillespie, ecolegydd bywyd gwyllt yn Adran yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol yn y Diriogaeth Ogleddol, Awstralia: "Mae ein canlyniadau'n awgrymu, am y tro cyntaf, bod planhigfeydd olew palmwydd yn cael effaith negyddol ar amrywiaeth amffibiaid sy'n estyn sawl cilomedr i gynefinoedd fforest law cyfagos."

Darganfu'r ymchwilwyr hefyd fod y newid i strwythur y cynefin a achosir yn sgîl dinistrio fforestydd glaw i wneud lle ar gyfer planhigfeydd olew palmwydd yn debygol o fod yn gyfrifol am y newidiadau i nifer y rhywogaethau broga a chyfansoddiad y gymuned.

Dywedodd Dr Benoît Goossens: "Wrth i chi deithio ymhellach i ffwrdd o'r planhigfeydd mae dwysedd canopi'r fforest law yn cynyddu, a cheir cynnydd hefyd yn nifer y rhywogaethau broga.

"Mae ein hymchwil yn awgrymu bod nifer uwch o rywogaethau broga mewn safleoedd lle na chafwyd aflonyddwch, ymhell o'r ffin rhwng y blanhigfa a'r fforest.

"Er bod olew palmwydd yn gnwd gwerthfawr sy'n bwysig o safbwynt economaidd, mae'r astudiaeth hon yn dangos y gall planhigfeydd olew palmwydd gael effeithiau negyddol ar rywogaethau sensitif mewn cynefinoedd fforest law cyfagos.

"Os yw maint a lled llecynnau bach neu goridorau cul o fforest yn mynd i fod o werth yn y tymor hir o safbwynt cadwraeth mewn tirweddau olew palmwydd, mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod angen ystyried yr effeithiau ymyl hyn wrth benderfynu ar eu maint a'u lled."

Rhannu’r stori hon