Ewch i’r prif gynnwys

Freedom to Speak Up Guardians

28 Mawrth 2018

Mae staff ymchwil Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd wedi derbyn grant o fri trwy Sefydliad Cenedlaethol yr Ymchwil i Iechyd er mwyn cloriannu rôl newydd yn GIG Lloegr.

Mae’r rôl, ‘Freedom to Speak Up Guardians’, wedi’i sefydlu i helpu i newid agweddau yn y gwaith, yn arbennig lle mae angen i weithwyr y GIG deimlo’n ddigon diogel i ddweud eu dweud am eu pryderon.

Daw hynny, yn bennaf, o ganlyniad i’r sefyllfa yn Ysbyty Stafford ryw 15 mlynedd yn ôl lle y cafodd cannoedd o gleifion eu hesgeuluso a’u niweidio ac na ddaeth pryderon am safonau gwael i’r amlwg o achos tuedd i gadw’n dawel ac anwybyddu neu erlid y staff oedd yn ddigon dewr i’w trafod.

Mae’r rôl newydd yn un arloesol nid yn unig yn y deyrnas hon ond ledled y byd, hefyd. Felly, bydd y prosiect ymchwil hwn yn arwain at ganfyddiadau o arwyddocâd rhyngwladol. Prifysgol Caerdydd sy’n arwain y prosiect a bydd ymchwilwyr o Brifysgol Surrey, Coleg y Brenin Llundain a Phrifysgol Birmingham yn cyfrannu’n sylweddol ato, hefyd.

Dyma gyfle cyffrous i gydweithio ag ysgolheigion uchel eu parch yng Nghaerdydd ac mewn sefydliadau eraill i astudio maes sy’n destun llosg yn y GIG ers amser maith ynghyd â ffordd unigryw o wella arferion ynddo.

Dyma ymchwilwyr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd: Y Dr Aled Jones (ymchwilydd arweiniol), yr Athro Daniel Kelly a’r Athro Davina Allen; Prifysgol Surrey: Yr Athro Jill Maben; Coleg y Brenin Llundain: Y Dr Mary Adams; Prifysgol Birmingham: Yr Athro Russell Mannion.

Bydd yr ymchwilwyr yn asesu gwahaniaethau yn y modd mae amryw sefydliadau’n defnyddio’r rôl, sut maen nhw wedi annog gweithwyr i ddweud eu dweud, effaith Freedom to Speak Up Guardians, a yw tynnu sylw at bryderon yn arferol erbyn hyn ac a oes tuedd i erlid y rhai sy’n gwneud hynny wedi diflannu bellach.

Rhannu’r stori hon