Ewch i’r prif gynnwys

Cyfreithiwr Edward Snowden ymhlith grŵp dethol o ymgyrchwyr preifatrwydd, ysgolheigion, newyddiadurwyr ac arbenigwyr technoleg yng Nghaerdydd ar gyfer digwyddiad mawr am wyliadwraeth

18 Mehefin 2015

Surveillance cameras

Bydd gwaith ymchwil newydd yn cael ei gyflwyno yn y gynhadledd hefyd sy'n dangos bod "diffyg tryloywder" ynghylch gwyliadwriaeth wladol yn peri "cryn bryder" ymysg y cyhoedd ym Mhrydain

Bydd cynhadledd bwysig yn dechrau heddiw (18 Mehefin) sy'n dod â newyddiadurwyr, ymchwilwyr rhyngwladol, eiriolwyr preifatrwydd a datblygwyr technoleg ynghyd i drafod y berthynas rhwng y wladwriaeth, ei dinasyddion a'r cyfryngau yn sgîl datgeliadau Snowden.

Mae'r gynhadledd yn gyfle euraidd i gael trafodaeth gyhoeddus am oblygiadau adroddiad Question of Trust - a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan David Anderson QC - yng nghyd-destun Deddf Pwerau Ymchwilio arfaethedig y llywodraeth, neu'r 'Siarter Busnesu' (Snooper's Charter) yn ôl y beirniaid.

Ben Wizner, cyfreithiwr Edward Snowden, fydd yn agor y gynhadledd. Bydd ei anerchiad yn myfyrio ar y drafodaeth fyd-eang hanesyddol a ysgogwyd gan ddatgeliadau Snowden, gan ganolbwyntio ar ddiwygiadau democrataidd a thechnolegol a rôl y cyfryngau.

Bydd yr aelodau eraill yn y grŵp dethol o siaradwyr yn cynnwys Dr Gus Hosein o Privacy International fydd yn ystyried rôl bosibl technoleg ac arloesedd yn y dyfodol. Bydd hefyd yn dadlau na fyddwn yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan yr arloesedd hwn oni bai bod penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud i gywiro dulliau 'aneffeithiol' o oruchwylio.

Mae'r siaradwyr eraill yn cynnwys cyn-chwythwr chwiban MI5, Annie Machon, Ed Paton-Williams - Open Rights Group, Tony Bunyan - Statewatch, James Ball - The Guardian, Gavin MacFadyen - y Ganolfan Newyddiaduraeth Ymchwiliol / Centre for Investigative Journalism, a'r Athro Ian Brown o Brifysgol Rhydychen.

Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys myfyrdodau a chyflwyniadau academaidd, cyfarfodydd strategaeth am ddiwygio polisïau, yn ogystal â hacathon o dan arweiniad Dr Michael Rogers (Technical University of Delft) i ddatblygu offer technegol ar gyfer cyfathrebu diogel. 

Mae'r gynhadledd, a gynhelir yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd, yn rhan o brosiect ymchwil mawr am 'Ddinasyddiaeth Ddigidol a Chymdeithas Wyliadwriaeth'; caiff canfyddiadau interim y prosiect eu cyflwyno yn y digwyddiad hefyd.

Partneriaeth gydweithredol rhwng academyddion ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen yw'r prosiect 18 mis hwn a ariennir gan ESRC*. Mae'n ystyried natur dinasyddiaeth ddigidol, yn ogystal â'r cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig ag ef yng nghyd-destun camau goruchwylio'r llywodraeth a ddatgelwyd gan Edward Snowden.

Mae'r canfyddiadau cychwynnol yn amlygu pryder y cyhoedd am 'ddiffyg trylowder ar lefel goruchwyliaeth y wladwriaeth yn y DU', gyda phobl yn dra ymwybodol bod goruchwylio'n digwydd, ond eu bod yn 'ddiymadferth' i wneud unrhyw beth yn ei chylch.

Mae'r canfyddiadau hefyd yn cwestiynu effeithiolrwydd offer technolegol, fel dulliau amgryptio, sy'n ceisio diogelu preifatrwydd personol, a rôl safonau technegol wrth alluogi neu rwystro gwyliadwriaeth.

Arweinir yr ymchwil gan Dr Arne Hintz, Dr Lina Dencik a'r Athro Karin Wahl-Britt Jorgensen o Ysgol Newyddiaduraeth y Brifysgol, ar y cyd â'r Athro Ian Brown o Brifysgol Rhydychen a Dr Michael Rogers (Technical University Delft). 

Dywedodd Dr Arne Hintz, prif ymchwilydd y prosiect: "Mae'r gynhadledd heddiw wedi'i hamseru'n berffaith ar ôl cyhoeddi adroddiad Anderson yn ddiweddar. Tynnodd yr adroddiad hwn sylw at y diffygion helaeth ym mholisi presennol y DU ar wyliadwriaeth, gan ddangos ei fod yn aneglur a heb ei arolygu'n ddigonol. Ddwy flynedd ar ôl datguddiadau Snowden, dim ond megis dechrau y mae eu gwir oblygiadau'n dod i'r amlwg. Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn adolygu ei pholisïau gwyliadwriaeth, mae ymchwiliadau seneddol yn cael eu cynnal mewn gwledydd fel yr Almaen, ac mae adroddiad Anderson bod angen diwygiadau sylweddol yn y DU hefyd."  

Dywedodd Dr Hintz fod galwadau Anderson am roi camau diogelu cyfreithiol mwy anhyblyg ar waith, yn ogystal ag adolygiad trylwyr o adnoddau goruchwylio, yn ategu llawer o ganfyddiadau ymchwil rhagarweiniol a'i dîm.

Aeth ymlaen: "Yn hanfodol, mae ei adroddiad yn atgyfnerthu'r cythrwfl cyfredol ynghylch sut i fynd i'r afael â gwyliadwriaeth yn ddigonol. Mae Llywodraeth y DU am ehangu gwyliadwriaeth gyda'i chynlluniau ar gyfer y 'Siarter Busnesu', tra bod Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi cymryd camau'n ddiweddar i gyfyngu ar wyliadwriaeth drwy Ddeddf Rhyddid UDA. Mae ymgyrchwyr hawliau digidol a sefydliadau'r CU wedi beirniadu lefel bresennol y wyliadwriaeth dorfol yn gryf, ac mae Anderson wedi cadarnhau erbyn hyn y dylid diwygio a thynhau deddfau gwyliadwriaeth. Bydd pob un o'r materion hyn yn cael sylw dros y ddau ddiwrnod nesaf ac rydym yn falch bod arbenigwyr o safon mor uchel yn ymuno â ni i helpu i lunio'r broses hon." 

Dywedodd Dr Lina Dencik: "Mae adroddiad Anderson wedi cadarnhau un o ganfyddiadau rhagarweiniol pwysicaf ein gwaith ymchwil – ynghylch tryloywder. Rydym wedi gweld bod y diffyg tryloywder ynghylch lefel gwyliadwriaeth wladol a'r ffordd y mae'n cael ei chynnal yn parhau i beri llawer o bryder ymhlith y cyhoedd ym Mhrydain. Mae pobl am wybod pam a sut mae eu data personol yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio, a pha gamau diogelu cyfreithiol sy'n bodoli. Mae hyn yn ganolog gan mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol ar ôl cael ei hethol oedd cynyddu pwerau goruchwylio asiantaethau gwybodaeth. Ar yr un pryd, ni wnaethant gyhoeddi adroddiadau tryloywder blynyddol am y gwasanaethau diogelwch fel y cafodd ei gychwyn o dan y llywodraeth glymblaid.

"Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos bod pobl yn dra ymwybodol bod gwyliadwriaeth yn digwydd ar-lein, boed hynny gan y wladwriaeth, corfforaethau, cyflogwyr neu gyfoedion. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi bod yn hyn yn digwydd. Byddant yn ceisio monitro eu hymddygiad ar-lein yn sgîl hynny, ond maent hefyd yn teimlo'n ddiymadferth i wneud llawer amdano. Mae'r parodrwydd hwn, yn ôl pob golwg, i dderbyn bod gwyliadwriaeth dorfol yn rhywbeth na ellir ei osgoi, yn cyferbynnu â datblygiadau yn yr Almaen ac UDA ddwy flynedd ar ôl datgeliadau Snowden."

Bydd y gynhadledd heddiw hefyd yn cynnwys sesiwn sy'n edrych yn benodol ar ddiogelwch gwybodaeth ar gyfer newyddiadurwyr, a bydd yn ystyried strategaethau a'r offer sy'n ceisio gwella'r ffordd y mae newyddiadurwyr yn cyfathrebu â'i gilydd ar-lein a'u ffynonellau. Bydd 'Archif Goruchwyliaeth Cludadwy Snowden' - sef archif ar y we y gellir chwilio am destun ynddo a grëwyd gan Canadian Journalists for Free Expression ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Toronto - yn cael ei gyflwyno hefyd.

Cewch weld rhaglen lawn y gynhadledd yma.

Rhannu’r stori hon