Ewch i’r prif gynnwys

Grant newydd ar gyfer ymchwil iechyd meddwl

27 Mawrth 2018

Big data illustrated

Mae tîm ym Mhrifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Jeremy Hall, wedi cael grant gwerth miliynau o bunnoedd i fanteisio ar bŵer gwyddorau data drwy integreiddio data genetig, clinigol a ffenoteipaidd i wella ymyriadau cynnar a thriniaethau iechyd meddwl.

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed llawer o gynnydd o ran deall sail genetig llawer o anhwylderau seiciatrig, ac i raddau helaeth mae hyn yn ganlyniad rhannu data ar raddfa fawr. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i wella haenu a thriniaethau iechyd meddwl.

"Er mwyn manteisio ar y cynnydd hwn mae angen ehangu'r dull graddfa fawr hwn sy'n seiliedig ar ddata drwy integreiddio gwybodaeth genetig gyda gwybodaeth glinigol, amgylcheddol, datblygiadol a biolegol ar raddfa fawr ym maes iechyd meddwl i drawsnewid y gwaith o reoli anhwylderau seiciatrig." meddai'r Athro Hall, cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd.

"Ein nod yw datblygu platfform fydd yn ein galluogi i ehangu'r ymdrechion cydweithredol sydd eu hangen i wneud cynnydd sylfaenol ym maes anhwylderau seiciatrig".

Nod y prosiect hwn yw defnyddio sawl dull, yn gyntaf drwy gysylltu 15,000 o samplau biolegol a roddwyd i Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd, a'u cysylltu â chofnodion iechyd electronig.

Yn ogystal â'r grwpiau cleifion, bydd y prosiect yn ffurfio grŵp o ddisgyblion ysgol yn eu harddegau er mwyn adnabod rhagflaenyddion anhwylder seiciatrig sy'n datblygu'n gynnar. Mae gan lawer o anhwylderau wreiddiau mewn plentyndod, ac mae pobl yn eu harddegau cynnar yn arbennig o agored i niwed.

Mae gan tua un o bob pum person yn ei arddegau anhwylder iechyd meddwl a dim ond lleiafrif o bobl ifanc sy'n cyflwyno eu hun i wasanaethau iechyd. Bydd y platfform ymchwil hwn ei gwneud yn bosibl i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso ymyriadau iechyd meddwl ataliol, a allai gael effaith sylweddol ar y GIG, llywio datblygiad polisïau a chynnig adnodd allweddol i'r byd academaidd a byd diwydiant.

Esboniodd Dr James Walters, un o'r cyd-ymgeiswyr am y grantiau, “Ein bwriad yw manteisio ar y cyfoeth o wybodaeth sydd gan y GIG wrth gysylltu ymchwil, data genetig a thrwy gyfweliadau â'u cofnodion iechyd mewn ffordd ddiogel ac anhysbys. Wrth wneud hynny, cawn weld effeithiau ffactorau genetig a risgiau eraill fydd yn ein helpu ni i ddeall natur cyflyrau iechyd meddwl ac arwain at well diagnosis a thriniaethau yn y pen draw."

"Mae problemau iechyd meddwl yn rhoi straen enfawr ar unigolion a'r gymdeithas. Mae gan y prosiect botensial i ychwanegu at ein dealltwriaeth sylfaenol o anhwylderau iechyd meddwl, yn enwedig drwy waith Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg a Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl. Bydd y fframwaith yn ein galluogi i ymateb i gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg, dod â disgyblaethau corfforol ac iechyd meddwl tebyg ynghyd, a gweithio i sicrhau effaith drawsnewidiol ar y gymdeithas" meddai Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Gary Baxter.

Ariennir y prosiect gan y Cyngor Ymchwil Meddygol fel rhan o Gronfa Buddsoddi Cynhyrchedd Cenedlaethol llywodraeth y DU.

Rhannu’r stori hon

Cewch farn arbenigol ein hacademyddion a'n hymchwilwyr yn ein blog blaenllaw sy'n annog trafodaeth adeiladol am faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a salwch.