Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ddadlennol

26 Mawrth 2018

Image to depict Chemiluminescent Technology

Mae patent Prifysgol Caerdydd, sydd wedi arloesi cenhedlaeth newydd o brofion biocemegol ar gyfer diagnosio clefydau, wedi’i gynnwys ar restr o drigain patent blaenllaw, wrth i’r DU ddathlu 400fed pen-blwydd patent cyntaf Prydain.

Mae patent rhif GB2112779 yn disgrifio dyfais gan yr Athro Anthony Campbell, yr Athro Stuart Woodhead a’r Athro Ian Weeks yn seiliedig ar eu hymchwil yn Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru (Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd bellach) ar amnewid isotopau ymbelydrol gan sylweddau allyrru golau cemoleuol) i'w defnyddio mewn profion diagnostig meddygol.

Roedd y gwaith ymchwil a oedd yn sail i'r Patent yn cyfuno gwybodaeth yr Athro Campbell o’i astudiaethau helaeth o fecanweithiau allyriadau golau gan greaduriaid byw (bio-ymoleuedd), arbenigedd yr Athro Woodhead mewn dulliau profi biocemegol allweddol (imiwno-adnabod) a ddefnyddir mewn diagnosis meddygol ac arbenigedd yr Athro Weeks mewn cemeg organig-ffisegol mewn dyluniad a synthesis cyfansoddion cemegol newydd.

Roedd y gwaith hwn yn sail i ddatblygu’r dull profi newydd a ddisgrifir yn y Patent a oedd yn fwy sensitif, cyflym a chywir na'r dulliau a ddefnyddiwyd ar y pryd i ddiagnosio clefydau. Roedd ansefydlogrwydd hefyd yn effeithio ar brofion presennol o'r fath, a dim ond mewn labordai arbenigol yr oedd modd eu defnyddio, lle’r oedd angen trwyddedau a chyfleusterau arbenigol ar gyfer trin radioisotopau, gan gyfyngu ar eu defnyddio yn ehangach.

Roedd y dull profi newydd hwn yn rhagori mewn sawl ystyr, gan ganiatáu ar gyfer mesur llawer mwy o wahanol foleciwlau biofarcwyr clefydau yn ddibynadwy, er enghraifft mewn samplau gwaed cleifion, gan olygu bod modd diagnosio llawer mwy o glefydau yn gyflymach. Roedd y gwaith yn cynnwys cymorth llawer o gydweithwyr, gan gynnwys Malcolm Ryall a ddatblygodd y teclynnau ymchwil ar gyfer canfod lefelau isel o olau wedi’i allyrru.

Yna, cyflwynodd yr Ysgol Meddygaeth gais ar gyfer y Patent a ddethlir yma sy'n disgrifio dyluniad, synthesis a’r defnydd o esterau acridiniwm cemoleuol newydd fel “labeli” nad ydynt yn ymbelydrol ar gyfer moleciwlau biolegol. Er bod defnyddio labeli cemoleuol wedi'i gynnig rhai blynyddoedd ynghynt, roedd y ddyfais bresennol yn dangos perfformiad profi dibynadwy a oedd yn rhagori ar yr hyn a gyflawnwyd gan labeli ymbelydrol. Arweiniodd y ffaith hon at lawer o ddiddordeb yn y diwydiant, ac er mwyn masnacheiddio’r ddyfais, fe ddyrannodd y Brifysgol drwyddedau i gwmnïau diagnostig i ddefnyddio’r dechnoleg.

Ffurfiodd yr Athrawon Woodhead a Weeks gwmni deillio (Molecular Light Technology Ltd. (MLT)) i ddatblygu a manteisio ar y dechnoleg ymhellach. Prynwyd MLT gan un o'r cwmnïau a oedd â thrwydded (Gen Probe Inc.) am $11 miliwn ac yna cafodd Gen Probe eu caffael gan Hologic Inc. am $3.8 biliwn.

Mae olynwyr ym musnes y patent gwreiddiol yn trwyddedu’r broses o weithgynhyrchu a marchnata cynhyrchion a ddefnyddir ledled y byd mewn cannoedd o filiynau o brofion diagnostig clinigol bob blwyddyn, sy'n effeithio ar iechyd biliynau o gleifion yn fyd-eang ers eu cyflwyno. Mae'r rhain yn cynnwys profion diagnostig ar gyfer canser, heintiau, diabetes, a llawer o afiechydon eraill, yn ogystal â phrofion banc gwaed sy’n sgrinio gwaed wedi ei roi ar gyfer pathogenau megis HIV a hepatitis.

Mae’r ddyfais a'r defnydd dilynol ohoni wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys Gwobr Pen-blwydd y Frenhines (1998), Medal Technoleg Genedlaethol yr Unol Daleithiau (2004) a chael ei henwi fel "… un o'r 100 o ddarganfyddiadau newid bywyd gorau.." sy'n deillio o brifysgolion y DU (Prifysgolion y DU, 2006).

Rhannu’r stori hon