Ewch i’r prif gynnwys

Menywod fel Gwrthrych: Ailedrych ar fenywod mewn ffotograffiaeth

22 Mawrth 2018

Gwneuthurwr anhysbys. Menyw Affricanaidd Americanaidd yn gwisgo menig gwyn, tua 1855. Daguerreotype gyda lliw cymhwysol. Amgueddfa George Eastman, rhodd gan Eaton Lothrop. Drwy garedigrwydd Amgueddfa George Eastman
Gwneuthurwr anhysbys. Menyw Affricanaidd Americanaidd yn gwisgo menig gwyn, tua 1855. Daguerreotype gyda lliw cymhwysol. Amgueddfa George Eastman, rhodd gan Eaton Lothrop. Drwy garedigrwydd Amgueddfa George Eastman

Mewn prosiect digidol newydd yn gynharach eleni, fe wnaeth academydd o Brifysgol Caerdydd, Alix Beeston, ailddehongli sut mae menywod wedi cael eu darlunio drwy hanes ffotograffiaeth.

Mae'r prosiect newydd arloesol hwn, Menywod fel Gwrthrych, yn cyflwyno lluniau newydd ar Instagram pob diwrnod o'r wythnos. Dros y deufis nesaf, bydd yn ein tywys o'r cyfrwng ffotograffig cychwynnol hyd at y presennol, gan ddefnyddio casgliadau Amgueddfa George Eastman yn unig.

Mae sylwadau ysgrifenedig byr i gyd-fynd â'r lluniau sy'n archwilio'r ffordd y portreadir menywod, yn ogystal â sut mae ffotograffau yn llwyddo i ddal moment annisgwyl, pan fydd y ffotograffydd a'r testun yn cwrdd.

Syniad y Darlithydd Llenyddiaeth Saesneg, Dr Alix Beeston oedd Menywod fel Gwrthrych. Mae Dr Beeston newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf ar ffotograffiaeth a llenyddiaeth ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ar hyn o bryd, mae hefyd yn addysgu modiwlau israddedig ar gynrychiolaeth menywod, "Menywod fel Gwrthrych mewn Llenyddiaeth a Ffilm," sy'n codi rhai o'r materion sy'n ganolog i'r prosiect Instagram.

Mae Dr Beeston yn gosod Menywod fel Gwrthrych yng nghyd-destun ehangach hanes celf. Eglurodd, "Am flynyddoedd lawer - a hynny'n gwbl briodol - mae beirniaid wedi canolbwyntio ar sut mae menywod wedi'u gwrthrychu mewn lluniau a’u troi'n wrthrychau ffantasi a dychmygol i ddynion."

Mae'r safbwynt hwn yn berthnasol iawn yn ein cyfnod diwylliannol, yn enwedig gan fod y symudiad #metoo wedi taflu golau cyhoeddus ar sut caiff menywod yn aml eu trin fel gwrthrychau o fewn cymdeithas batriarchaidd. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni gydnabod sut mae'r fenyw a gaiff ei gwrthrychu, nid yn unig yn cyflwyno menyw fel gwrthrych, ond ei bod hefyd yn cynrychioli ffigwr o wrthwynebiad neu brotest - hyd yn oed os yw hynny mewn ffyrdd cyfyngedig neu symbolaidd."

"Mae'r prosiect newydd hwn ar Instagram yn ymgais i ddefnyddio'r cyfrwng poblogaidd ar-lein i edrych ar ffyrdd newydd o sut mae menywod yn cael eu cynrychioli - yn ogystal â sut mae menywod yn cynrychioli eu hunain - drwy ffotograffiaeth."

Lansiwyd Menywod fel Gwrthrych ar 1 Mawrth, a bydd prosiect Instagram yn parhau i ddatblygu tan ddechrau mis Mai.

Mae Dr Alix Beeston yn Ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei llyfr cyntaf, In and Out of Sight: Modernist Writing and the Photographic Unseen, bellach ar gael gan Wasg Prifysgol Rhydychen.

Rhannu’r stori hon