Ewch i’r prif gynnwys

Bwrw goleuni newydd ar hanes dofi defaid a geifr

20 Mawrth 2018

Four sheep in a field

Mae ymchwil newydd wedi bwrw goleuni ar y dirgelwch ynglŷn â sut cafodd defaid a geifr eu dofi dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Defaid a geifr yw dau o'r rhywogaethau dof pwysicaf o blith anifeiliaid da byw, ac mae ymchwil gan Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi olrhain hanes dofi'r anifail.

Mae'r ymchwil newydd wedi datgelu cliwiau ynglŷn â gwreiddiau'r broses o sut datblygodd yr anifeiliaid hyn i'r defaid a geifr sydd wedi chwarae rhan fawr yn hanes dynol ryw ac amaethyddiaeth.

Dywedodd Dr Pablo Orozco-terWengel, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Cafodd defaid a geifr eu dofi ger y cilgant ffrwythlon tua 10,500 o flynyddoedd yn ôl.

"Fe wnaethom ymchwilio i hanes dofi'r ddwy rywogaeth hon drwy gymharu eu genynnau â'u hynafiaid gwyllt – mouflon Asia a'r ibecs Bezoar."

Asiatic Mouflon

Drwy gymharu proffiliau genetig bridiau gwyllt o ddefaid a geifr â rhai'r bridiau lleol, traddodiadol a'r rhai a wellwyd, fe wnaeth yr ymchwil ddatgelu darnau o gôd genetig sydd wedi chwarae rhan sylweddol yn y broses o ddofi rhywogaethau gwyllt, ac sydd wedi eu troi yn anifeiliaid fferm sy'n gyfarwydd i ni heddiw.

Dywedodd yr Athro Mike Bruford, o Brifysgol Caerdydd: "Drwy wneud y cymariaethau hyn gwelsom fod yna hanes dynamig, gan gynnwys twf yn eu poblogaeth a gostyngiadau mawr ym mhoblogaeth eu hynafiaid gwyllt.

"Mae'n dangos hefyd bod meysydd genetig sy'n gysylltiedig â ffactorau sy'n bwysig yn y broses dofi, megis nodweddion ymddygiadol corfforol, wedi cael eu heffeithio'n fawr."

Dangosodd yr astudiaeth fod genynnau tebyg yn cael eu targedu yn ystod y broses bridio ddetholus, gan droi mouflon Asia a'r ibecs Bezoar gwyllt yn ddefaid a geifr dof dros gyfnod o 10,000 o flynyddoedd. Ond roedd y genynnau hyn yn ymddwyn yn wahanol i sut y byddai'r ymchwilwyr wedi ei ddisgwyl.

"Gwelom hefyd bod yr un nodweddion genetig yn cael eu dethol yn ystod y broses dofi mewn defaid a geifr ill dau.

"Yr hyn sydd fwyaf anhygoel yw bod detholiad yn yr un genyn yn y ddwy rywogaeth wahanol yn digwydd mewn ffyrdd gwahanol ac annisgwyl. At hynny, er bod y patrymau dethol hyn yn wahanol, roeddent yn arwain at nodweddion tebyg yn y ddwy rywogaeth.

"Erbyn hyn rydym yn deall bridio detholus yn well, a'i berthynas â genynnau defaid a geifr dof.

"Yn y gorffennol, pan oedd dwy rywogaeth yn perthyn yn agos i'w gilydd ac yn rhannu nodweddion corfforol tebyg, fel defaid a geifr, roeddem yn arfer credu bod yr un genynnau wedi ymateb yn yr un ffordd i fridio detholus.

"Fodd bynnag, yr hyn rydym yn gweld yma yw bod modd cael nodweddion tebyg yn y pen draw, a'r un genyn yn cael ei ddethol, ond prosesau hynod wahanol o ran sut newidiodd y genyn," ychwanegodd Dr Pablo Orozco-terWengel.