Ewch i’r prif gynnwys

Cân i Gymru

27 Chwefror 2018

Bydd dysgwr Cymraeg a lwyddodd i gwblhau gwrs dwys ym Mhrifysgol Caerdydd yn perfformio yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni.

Bydd y gystadleuaeth canu genedlaethol, a ddarlledir gan S4C, yn cael ei chynnal ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) ym Mangor. Mae'r gystadleuaeth eleni'n cynnwys wyth cân sydd ar y rhestr fer, o blith 114 a gyflwynwyd.

Un o'r caneuon yw Ti'n Frawd i Mi gan Owain Glenister, fydd yn cael ei pherfformio gan un o gyn-gystadleuwyr The Voice, Ragsy. Bu’r cerddor o Gymru Ragsy – neu Gary Ryland i roi ei enw go iawn – sy’n hanu o Aberdâr, yn cystadlu yn ail gyfres The Voice UK, ar BBC One, lle cafodd ei fentora gan yr eicon o Gymru, Syr Tom Jones.

Yn haf 2017, treuliodd Ragsy wyth wythnos ar gwrs Cymraeg dwys yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a ddarperir ar ran y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer dysgu Cymraeg. Ar y pryd, esboniodd Ragsy ei resymau dros gofrestru ar gyfer y dosbarthiadau. Dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu’r iaith brydferth hon yng nghwmni pobl eraill o'r un anian, er mwyn helpu i gyflawni fy uchelgais personol a gallu sgwrsio’n llawn yn fy mamiaith."

Ers cwblhau'r cwrs haf, mae Ragsy wedi cael llawer o gyfleoedd i ddefnyddio ei sgiliau Cymraeg newydd a'i hyder cynyddol yn yr iaith a ddisgrifiwyd ganddo fel iaith "brydferth, rhythmig, chwilfrydig a bron hudol". Mae wedi rhyddhau sawl sengl Cymraeg gan gynnwys Fy Nghariad (Galw dy Fyddin) a Codi i Gael Aer, a ryddhawyd ar gyfer Diwrnod Miwsig Cymru eleni.

Mewn egwyl yn ystod yr ymarferion ar gyfer y darllediad byw o Gân i Gymru, dywedodd Ragsy: "Fe wnes i fwynhau mas draw ar y cwrs haf dwys yn 2017, ac rwy'n ddiolchgar dros ben i bawb yn Ysgol y Gymraeg am y cyfle a'r gefnogaeth.

"Rwy'n teimlo'n eithriadol o gyffrous i sefyll ar lwyfan Cân i Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, a byddaf yn falch o berfformio cân wych Owain yn Gymraeg."

Fe wnaeth Lowri Bunford-Jones, rheolwr y ganolfan Cymraeg i Oedolion yn Ysgol y Gymraeg, longyfarch Ragsy ar ei lwyddiant. Meddai: "Mae bob amser yn wych gweld sut mae ein dysgwyr yn defnyddio eu sgiliau iaith newydd, a sut mae'n eu galluogi i gymryd rhan mewn diwylliant a bywyd Cymraeg.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld Ragsy'n perfformio ar Gân i Gymru ac rwy'n sicr y bydd yn ysbrydoli dysgwyr posibl eraill i gyflawni eu huchelgais. Pob hwyl i ti Ragsy!"

I gael rhagor o wybodaeth am ddysgu Cymraeg, ewch i wefan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.