Ewch i’r prif gynnwys

Sawl enwebiad ar gyfer myfyrwyr a chynfyfyrwyr yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru

19 Mawrth 2018

Wales Media Awards 2018
Two current students and seven alumni from Cardiff University lead the nominations shortlist.

Mae myfyrwyr israddedig a chynfyfyrwyr o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cyfryngau Cymru, Elusen y Newyddiadurwyr, 2018.

Mae golygydd Gair Rhydd, Liam Ketcher (BA Cymraeg) ac Elen Davies (BA Cymraeg a Newyddiaduriaeth), ymhlith dim tri o enwebeion yn unig sydd â gobaith o ennill gwobr Newyddiadurwr y Flwyddyn i Fyfyrwyr.

Enwebwyd y naill fyfyriwr a’r llall – a astudiodd fodiwlau newyddiaduraeth yn Gymraeg – am safon eu hadroddiadau newyddion ‘Llais y Maes’ yn Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Mae cynrychiolaeth gref o gynfyfyrwyr yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi’u henwebu, gan gynnwys saith a raddiodd yn ddiweddar.

Katie Sands (Media Wales) sy’n arwain y rhestr fer gyda phum enwebiad. Yn ogystal â Katie, mae ei chyd-gynfyfyrwyr Will Hayward (Wales Online) yn y categorïau ‘Gohebydd Newyddion Ar-lein’ a ‘Newyddiadurwr Digidol’, ac mae a Ruth Mosalski (Media Wales) yn y categori ‘Awdur Nodwedd’.

Mae Thomas Brown-Lowe a Rob Osborne, ill dau wedi graddio ag MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu, yn ymuno â Katie yn y categorïau ‘Newyddiadurwr Ifanc y Flwyddyn’ a ‘Stori’r Flwyddyn’.

Enwebwyd Gemma Parry (South Wales Evening Post) ar gyfer ‘Newyddiadurwr Newyddion Print’ a Caleb Spencer (Cambrian News) ar gyfer ‘Newyddiadurwr Arbenigol’.

Yn ôl Cyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth, yr Athro Richard Sambrook, “Mae’r gwobrau hyn yn dathlu newyddiaduraeth o safon uchel yng Nghymru ac mae’n dda gweld cynifer o’n cynfyfyrwyr wedi’u cynrychioli.

“Cafodd pob un o’n graddedigon ar y rhestr fer eu hyfforddi ar ein cyrsiau Newyddiaduraeth Darlledu a Newyddion, sydd wedi eu hachredu gan y diwydiant. Mae’r enwebiadau yn dangos sut mae’r cyrsiau hynny yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio ar y lefel uchaf o’r diwrnod cyntaf un.”

“Hoffwn longyfarch bob un ohonynt a dymuno’n dda iddynt ar y noson.”

Cyflwynir y gwobrau mewn seremoni tei ddu o fri – gyda’r darlledwr Huw Edwards yn cyflwyno – yng ngwesty’r Mercure Holland House, Caerdydd ar 23 Mawrth 2018.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.