Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni yn dod ag arbenigwyr Ewrop ynghyd
27 Chwefror 2018
Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda rhwydwaith Vision2020 er mwyn helpu ymchwilwyr systemau ynni ledled Ewrop i ddatblygu mentrau cydweithredol newydd.
Bydd Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni'r Brifysgol yn cyd-gynnal digwyddiad Building Consortia for Energy 2018-2020 ym Mrwsel ar 5-6 Mawrth 2018, ac yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o'r byd academaidd a byd diwydiant i rwydweithio a thrafod cynlluniau ar gyfer prosiectau i'w cyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Bydd cyd-Gyfarwyddwyr y Sefydliad, yr Athro Phil Jones (Ysgol Pensaernïaeth Cymru) a'r Athro Phil Bowen (Ysgol Peirianneg) yn croesawu dros 65 o gynadleddwyr o 16 o wledydd i'r digwyddiad deuddydd, a gynhelir yng nghanol ardal UE y ddinas, yn swyddfeydd Addysg Uwch Cymru Brwsel.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar sawl un o gynigion prosiect y Comisiwn, sy'n ymdrin â meysydd allweddol o bwysigrwydd strategol i'r UE, gan gynnwys datgarboneiddio stoc adeiladau'r UE, datblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau ynni adnewyddadwy, a thechnolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer gwresogi ac oeri ardal.
Bydd y rhai sy'n bresennol yn y digwyddiad hefyd yn ystyried effaith prosiectau a sut i ddefnyddio canlyniadau ymchwil, a bydd cyflwyniadau gan siaradwyr o'r Comisiwn Ewropeaidd, Greenovate o Frwsel, ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
Mae rhwydwaith Vision2020 yn gymdeithas â sefydliadau o ledled Ewrop sydd am gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a ariennir gan gynllun cyllido Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd. Yn ogystal â galluogi Prifysgol Caerdydd i ddatblygu cysylltiadau ymchwil newydd, mae cydlynu 'Helics Ynni' y rhwydwaith yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ymchwil gydweithredol a ariennir gan Ewrop.
The event has received generous support from Wales Higher Education Brussels and the FLEXIS project.