Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud gwahaniaeth

27 Chwefror 2018

Two students delivering speech
Erin Mina Barber a James Clarke: “Gwelwn ddyfodol llathr.”

Clywodd cynulleidfa o staff a myfyrwyr sut mae addysg gwerth cyhoeddus yn gadael argraff ar garfan MBA presennol Ysgol Busnes Caerdydd.

Yn ystod y cinio dathlu MBA blynyddol, traddododd y myfyrwyr Erin Mina Barber a James Clarke araith angerddol ynghylch y profiadau a ddaeth i’w rhan wrth astudio yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Gweithio gyda'n gilydd

Dywedodd Erin Barber: “Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd bolisi gwerth cyhoeddus sy’n sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu dysgu i weld nid unig werth economaidd ond gwerth cymdeithasol yn ogystal. Dyma sy’n gwneud yr Ysgol mor rhyfeddol.

“Mae pobl o bob cefndir, o bob math o ddechreuad ym mywyd, o bob gwlad yn cydweithio er mwyn cyflawni rhagoriaeth.”

Ers cyflwyno strategaeth newydd uchelgeisiol yn 2015, mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi gosod gwerth cyhoeddus wrth graidd eu gweithrediadau - addysgu, ymchwil, a llywodraethu.

Dywedodd James Clarke: “Nid oes rhaid edrych yn bell er mwyn gweld pam mae polisi’r Ysgol mor bwysig. Efallai fod y newyddion yn rhoi’r argraff mai llwm a digalon yw’r dyfodol ...”

“Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud gwahaniaeth. Yn ein plith y mae diplomyddion, meddygon, peirianwyr, milwyr, gwyddonwyr, athronwyr, iacháwyr ac, wrth gwrs, bobl fusnes y dyfodol. Gwelwn ddyfodol llathr.”

James Clarke myfyriwr MBA
Large audience seated at tables

Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Rydym yn gwybod ein bod wedi gosod agenda dewr, un sy’n herio rhagdybiaethau pobl ynghylch graddedigion MBA. Felly mae’n wych clywed yn uniongyrchol sut mae’n myfyrwyr yn cofleidio ethos gwerth cyhoeddus drwy eu haddysg ...”

“Maent yn cydnabod y rôl y mae busnes a rheoli yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â rhai o heriau mawr y gymdeithas a dechrau perchenogi’r rolau y byddant yn eu chwarae yn y broses hon.”

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Daeth James, o Fryste’n wreiddiol, i Gaerdydd ar gyfer ei astudiaethau israddedig lle y gwnaeth gwblhau yn llwyddiannus ei BA yn Hanes yr Henfyd. Datblygodd ei ddiddordeb mewn busnes ar ôl iddo sefydlu’r Gymdeithas AirSoft a goruchwylio ei thwf, a hithau bellach yn y Gymdeithas AirSoft fwyaf o’r 25 a geir ledled y DU.

Daeth Erin i Gymru, a hithau’n wreiddiol o Los Angeles, er mwyn astudio MBA Caerdydd wedi astudiaethau israddedig yng Nghaliffornia. Ers cyrraedd, mae wedi edmygu’r awyrgylch rhyngwladol, pentrefol sy’n cynnig y cymysgedd perffaith o fywyd myfyriwr a bywyd ‘go iawn’.

Arloesol, rhyngddisgyblaethol, wedi’i harwain gan her

Ychwanegodd yr Athro Helen Williams, Deon Cyswllt Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer Addysgu a Dysgu: "Rwyf mor falch o’r ffordd y mae myfyrwyr MBA eleni wedi ymateb i’n cwricwlwm arloesol, rhyngddisgyblaethol a arweinir gan her.

“Maent yn dystiolaeth bod addysg gwerth cyhoeddus yn gallu trosglwyddo ymdeimlad moesol a dychymyg cydymdeimladol i fyfyrwyr.”

Mae MBA Caerdydd yn troi damcaniaeth yn ymarfer ac yn cynnig mewnwelediadau byd go-iawn i arferion busnes a fydd yn holl-werthfawr at eich uchelgais gyrfaol yn y dyfodol.

Dysgu rhagor am y rhaglen hon â ffocws rhyngwladol.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.