Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarnu Gwobr Pen-blwydd y Frenhines

27 Chwefror 2018

Dr Maggie Woodhouse at Buckingham Palace

Mae cyfleuster rhagorol Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr academaidd fwyaf mawreddog y DU - Gwobr Pen-blwydd y Frenhines.

Cyflwynwyd y wobr i Bennaeth yr Uned, Dr Maggie Woodhouse, mewn seremoni ym Mhalas Buckingham. Mae'r Frenhines yn dyfarnu'r wobr bob dwy flynedd i gydnabod sefydliad academaidd neu alwedigaethol, ac mae'n rhan o system anrhydeddau cenedlaethol y DU.

Dywedodd Dr Maggie Woodhouse: "Mae cael y gydnabyddiaeth yma yn anrhydedd aruthrol. Mae'n adlewyrchu ymroddiad ac ymchwil unigryw ein staff sy'n gwbl ymrwymedig i deilwra a gwella gofal llygaid i blant â syndrom Down. Mae gallu gwella eu cyfleoedd dysgu ac addysgol, yn ogystal â rhoi’r cyfle iddyn nhw ffynnu a gwireddu eu potensial llawn, yn brofiad gwerth chweil."

Mae plant sydd â syndrom Down yn fwy tebygol o ddioddef anhwylderau llygaid a golwg na phlant sy’n datblygu’n arferol, mae’n rhaid iddynt gael profion golwg rheolaidd, ac maent yn fwy tebygol o angen sbectol a chymhorthion yn y dosbarth ar gyfer diffygion golwg. Cyn sefydlu'r Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down, prin iawn oedd y ddealltwriaeth o’r problemau golwg penodol hyn. Roeddent yn cael eu camddehongli ac nid oeddent yn cael eu canfod. O ganlyniad, sefydlwyd yr Uned, mewn ymateb uniongyrchol i'r diffyg ymchwil yn y maes. Mae bellach ar flaen y gad o ran ymchwil yn y maes.

Mae darganfyddiadau’r Uned, sy’n newid bywydau, megis y broses sy’n cywiro gwallau mewn methiannau babanod nodweddiadol yn y rheiny sydd â syndrom Down, a manteision sbectol ddeuffocal i’w cyflyrau, wedi ffurfio sail uniongyrchol i ganllawiau cenedlaethol a rhyngwladol ar ofalu am eu golwg. Mae’r ymchwil hefyd wedi llywio hyfforddiant ar gyfer optometryddion ac wedi newid y ffordd y mae’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â syndrom Down, ac sy’n eu haddysgu, yn sefydlu’r amgylchedd dysgu.

Dim ond ambell enghraifft o waith arloesol yr Uned yw'r newidiadau i'r profion golwg, y dulliau addysgu a’r adnoddau ar gyfer plant sydd â syndrom Down.

Image of Dr Maggie Woodhouse outside Buckingham Palace

Ers 1992, mae'r uned wedi ffurfio unig garfan hydredol y byd o bobl ifanc sydd â syndrom Down. Ar hyn o bryd, mae dros 250 o blant ac oedolion ifanc o bob rhan o’r DU yn cymryd rhan yn ei hastudiaethau, yn amrywio o 1 i 25 mlwydd oed. Mae golwg a datblygiadau cyffredinol pob unigolyn wedi’i fonitro gan yr Uned dros amser, gan wneud y grŵp hwn a’i ddata yn unigryw; dyma’r gronfa ddata mwyaf o'i math yn y byd.

Hefyd, yr Uned yw’r unig ganolfan addysgu optometreg yn y DU sy'n cynnwys cwrs pwrpasol uniongyrchol mewn optometreg anghenion arbennig fel rhan o'r cwricwlwm israddedig.

Dros y blynyddoedd nesaf, mae aelodau o'r Uned yn bwriadu troi eu sylw at weithredu gwasanaeth gofal llygaid arbennig mewn ysgolion yng Nghymru, drwy ddarparu’r hyfforddiant ar gyfer yr optometryddion a fydd yn cymryd rhan. Maent hefyd, drwy gydweithio a phartneriaid, yn ceisio sefydlu gwasanaeth tebyg yn nhair gwlad arall y DU.

Dywedodd Carol Boys, Prif Weithredwr, y Gymdeithas Syndrom Down: "Rydw i wrth fy modd i glywed bod yr Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down wedi cael cydnabyddiaeth drwy'r wobr hon am eu gwaith arloesol. Mae Maggie a'i chydweithwyr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau llawer iawn o bobl gyda syndrom Down, yn bersonol, drwy eu hymchwil, a thrwy eu rhaglen addysgu hefyd."

Rhannu’r stori hon