Ewch i’r prif gynnwys

Bygythiad i ddiogelwch bwyd wrth i bysgodfeydd daflu pysgod bwytadwy

26 Chwefror 2018

Discarded snapper

Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod pysgodfeydd crefftwrol bach yn Sri Lanka yn taflu mwy o rywogaethau morol nag y maent yn eu cadw.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ac mewn cydweithrediad â Susantha Udagedara o'r Blue Resources Trust, yn y cyfnodolyn Frontiers in Marine Science. Dangosodd fod pysgotwyr graddfa fach yn Sri Lanka yn taflu dros 50 o bysgod ym mhob taith roedden nhw'n eu gwneud.

Bu ymchwilwyr yn edrych ar y nifer a maint y pysgod oedd yn cael eu taflu mewn safle glanio ar Forlyn Puttalam. Ym mhob un o'r 63 taith bysgota a astudiwyd dros wythnos, roedd pob dalfa'n cael ei didoli ar y tir, ac ni ddychwelwyd unrhyw bysgod i'r môr. Cofnodwyd bod 2,752 o bysgod wedi cael eu taflu.

Er nad oedd y rheswm eu bod yn cael eu gwrthod bob amser yn glir, mae'n bosibl y barnwyd bod y pysgod yn rhy fach, neu ddim yn ddigon gwerthfawr i'w gwerthu. Ym mhob achos, roedd y pysgotwyr yn dal llawer o rywogaethau nad oeddent yn eu targedu, sy'n cael ei alw'n sgil-bysgota. Roedd y rhain yn aml yn bysgod ifanc, sy'n bwysig ar gyfer cynaladwyedd y morlyn.

O'r 62 o rywogaethau a gofnodwyd yn yr astudiaeth, roedd dros 82% yn cael eu taflu fel mater o drefn.

Mae 32% o'r bobl sy'n byw ger y morlyn, sy'n nodweddiadol o'r math a geir yn y wlad, yn dlawd - sy'n cyfateb i 5,000 o gartrefi. Cyfrifodd y tîm y gallai'r sgil-bysgota ddarparu tri physgodyn bob dydd i bob cartref.

Dywedodd Benjamin Jones, ymchwilydd yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, cyfarwyddwr sefydlol Project Seagrass a phrif awdur yr astudiaeth: "Yn yr oes hon o ansicrwydd cynyddol o ran bwyd, mae'r canfyddiadau hyn yn bryder difrifol i Sri Lanka. Gallai'r pysgod a daflwyd fod wedi helpu i fwydo'r bobl dlotaf mewn cymunedau cyfagos."

Dywedodd y cydawdur Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe: "Mae'r canfyddiadau dychrynllyd hyn yn ychwanegu at sylwadau tebyg a wnaed gan ein tîm ar draws y rhanbarth Indo-Basiffig lle mae cymaint o bysgod yn cael eu gwastraffu hyd yn oed mewn pysgodfeydd bach. Mae hyn yn codi cwestiynau amlwg am ddiogelwch bwyd pobl ddibynnol."

Yn ogystal â dadansoddi'r rhywogaethau gwrthodedig a ganfuwyd ar y lan, defnyddiodd y tîm hefyd y data o gyfweliadau gyda phobl sy’n byw o gwmpas y morlyn i edrych ar dueddiadau ac ar farchnadoedd pysgod i fesur hoffterau cwsmeriaid.

Dywedodd yr holl bysgotwyr ei bod yn well ganddynt bysgota mewn dolydd morwellt oherwydd eu bod yn gallu dal digonedd o bysgod yno.

Ychwanegodd Benjamin Jones: "Mae dolydd morwellt yn fagwrfa i bysgod bach. Os yw'r pysgod hyn yn cael eu tynnu oddi yno a'u taflu i ffwrdd fel rydym ni wedi gweld, ychydig iawn fydd yn tyfu'n oedolion - neu'r cyfnod y byddent fel arfer yn atgenhedlu. Mae hyn yn golygu bod eu dyfodol yn ansicr."

Ychwanegodd Dr Leanne Cullen-Unsworth, Cymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy:  "Mae biliynau o bobl yn dibynnu ar bysgod i gael protein, ac mae’r pysgodfeydd bach yn darparu swyddi i dros 50 miliwn o bobl. Mae'r canfyddiadau hyn yn codi pryderon nid yn unig i bobl dlawd, ond hefyd y bobl sy'n dibynnu ar y pysgodfeydd hyn fel bywoliaeth. Os bydd hyn yn parhau, fydd dim pysgodfa ar ôl."

Canfu'r astudiaeth fod gan bysgotwyr sy'n targedu perdys, a gaiff eu hallforio i wledydd fel Japan a'r Unol Daleithiau, lefelau uwch o sgil-bysgota.

Gallai 90% o stoc pysgod y byd fod dan fygythiad gorbysgota - pan gaiff mwy o bysgod eu dal nag y gall y boblogaeth eu hailosod.

Casgliad yr awduron yw ei bod yn bosibl fod rhwydweithiau cymdeithasol gwael yn atal pysgod a deflir rhag cyrraedd y gymuned ehangach. Argymhellir sefydlu arferion rheoli cynaliadwy drwy integreiddio cymunedol ac addysg yn ogystal â lleihau gwastraff bwyd diangen.

Rhannu’r stori hon

For more information please visit the Research Institute webpages