Ewch i’r prif gynnwys

£5.5m o arian ychwanegol gan Ymchwil Canser y DU

23 Chwefror 2018

Scientist in lab

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cael hwb ariannol mawr am waith arloesol ynghylch canser.

Mae Ymchwil Canser y DU yn bwriadu buddsoddi dros £5.5m dros y bum mlynedd nesaf mewn gwaith arloesol yn y Ganolfan Treialon Ymchwil.

Bydd y grant yn galluogi meddygon a gwyddonwyr barhau i ymchwilio a phrofi well ac yn fwy caredig triniaethau ar gyfer cleifion.

Mae Canolfan Ymchwil y treialon yn cyfuno ymchwil blaenllaw ac arbenigedd meddygol i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer cleifion canser. Yn gartref i academyddion blaenllaw gan gynnwys ymchwilwyr, rheolwyr treialon, rheolwyr data ac ystadegwyr, mae’n rhan hanfodol o rhwydwaith ymchwil Ymchwil Canser y DU, sy’n helpu i lunio tirwedd ymchwil clinigol yn y DU ac yn rhyngwladol.

Yn ôl yr Athro Richard Adams, Cyfarwyddwr Treialon Canser Caerdydd: “Rydym yn falch iawn bod Prifysgol Caerdydd wedi cael y grant hwn. Mae ein gwaith ymchwil clinigol yn ein galluogi i gyfieithu darganfyddiadau o’r labordy a gwella triniaethau canser, gan roi’r cyfle gorau i fwy o gleifion o drechu eu hafiechydon.

Aeth ymlaen: “Mae treialon clinigol yn hanfodol ar gyfer profi triniaethau newydd. Er enghraifft, rydym yn cynnal treialon mewn canser oesoffagaidd, canserau’r pen a’r gwddf a chanserau’r gwaed.”

Mae'r ymchwil yn cynnwys y prawf AML19 ar gyfer oedolion ifanc â Lewcemia Myeloid Acíwt (AML) – math ymosodol o ganser y gwaed.

Yn ôl yr Athro Robert Hills, Dirprwy Gyfarwyddwr Treialon Canser Caerdydd, sy'n arwain y treialon lewcemia: “O ganlyniad i'n gwaith ymchwil, rydym wedi gweld trawsnewid yn y ffordd y gellir trin y math hwn o ganser.

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf ynghylch ariannu yn dilyn adolygiad mawr gan yr elusen o’i holl Unedau Treialon Canser Ymchwil Canser y DU. Canlyniad hyn yw buddsoddi £45m mewn wyth uned ar draws y DU, un o fuddsoddiadau mwyaf yr elusen mewn ymchwil clinigol hyd yn hyn.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan banel rhyngwladol o arbenigwyr ac roedd y gystadleuaeth yn un ffyrnig.

Dywedodd Ruth Amies, llefarydd Cancer Research UK ar gyfer Cymru: “Mae’r buddsoddiad hanfodol hwn yn cydnabod yr ymchwil ardderchog sy’n digwydd yng Nghaerdydd. Mae'n sicrhau gall ymchwilwyr fanteisio i'r eithaf ar ein darganfyddiadau gwyddonol mwyaf addawol ac yn eu trosi i'r profion newydd a thriniaethau ar gyfer cleifion.

“Caiff un ym mhob dau ohonom ddiagnosis o ganser ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, felly mae’n galonogol i wybod – gyda diolch i’n cefnogwyr – bod Ymchwil Canser y DU yn gallu ariannu peth o’r ymchwil gorau a mwyaf addawol yma yng Nghymru, i helpu mwy o bobl i oroesi.

Aeth Ruth yn ei blaen: “Mae cymaint o ffyrdd o gefnogi gwaith Ymchwil Canser y DU – gwaith sy’n achub bywydau – o ymrestru ar gyfer Walk All Over Cancer ym mis Mawrth i redeg y Ras am Oes, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal o amgylch Cymru o fis Mai i fis Medi; neu roi o’ch amser i wirfoddoli yn ein siopau.”

“Mae’r nifer o bobl sy’n goroesi wedi dyblu ers y 1970au cynnar a bu gwaith Ymchwil Canser y DU wrth wraidd y cynnydd hwnnw – fodd bynnag, mae pob cam a gymerir gan ein doctoriaid, nyrsys a gwyddonwyr yn ddibynnol ar roddion gan y cyhoedd a’r gwaith codi arian diflino ar ran ein cefnogwyr.”

Rhannu’r stori hon