Ewch i’r prif gynnwys

Planhigion cymhleth oedd yn gyntaf i goncro tir

16 Chwefror 2018

Liverwort plant

Mae ymchwil newydd wedi dangos bod y planhigion cyntaf i goncro tir yn rhywogaeth lawer mwy cymhleth nag a ragdybiwyd o'r blaen.

Cyn i'r planhigion tir cyntaf ymddangos ar y Ddaear tua hanner biliwn o flynyddoedd yn ôl, ni fyddai’n bosibl adnabod y Ddaear heb unrhyw laswellt, coed na hyd yn oed mwsoglau.

Hyd yn hyn, ystyriwyd mai mwsoglau a'u perthnasau, llysiau’r afu a cyrnddail, oedd y planhigion gwir cyntaf ar dir sych. Mae'r grwpiau hyn, a elwir ar y cyd fel y bryoffytau, yn blanhigion bychan ac anhygoel, sy'n hoffi lleithder.

Llysiau'r afu yw'r symlaf o'r rhain, a chredir mai nhw oedd y cyntaf ar y tir.

Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Current Biology, roedd tîm sy'n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn modelu dilyniannau moleciwlaidd planhigion modern ac yn dangos bod llysiau'r afu mewn cysylltiad agosach â mwsoglau na cyrnddail.

O'r herwydd, mae'r tîm wedi uno llysiau’r afu a'r mwsoglau mewn grŵp newydd o blanhigion, a alwyd yn 'Setaphyta'.

Mae'r goeden deuluol newydd o blanhigion, gan gynnwys grŵp Setaphyta, yn dangos nad llysiau'r afu (fel yr ydym yn eu galw heddiw) oedd y grŵp cyntaf i goncro tir. Yn hytrach na bod yn gyndad syml i bob planhigyn arall, mae symlrwydd planhigyn llysiau'r afu yn ganlyniad i’r ffaith iddo golli peth o'i nodweddion dros amser.

Dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth Dr Jennifer Morris, o Ysgol Gwyddorau’r Daear a’r Amgylchedd: "Er mwyn cynhyrchu'r goeden deuluol hon, dadansoddom gynrychiolydd set ddata moleciwlaidd mawr o bob prif grŵp o blanhigion tir a'u perthnasoedd algaidd.
Yn ein dadansoddiadau, nid llysiau'r afu sy’n ymddangos fel y grŵp cynharaf o blanhigion tir, felly mae eu symlrwydd cymharol yn cynrychioli colled yn hytrach na'r cyflwr cyntefig."

Gan y tybiwyd mai'r planhigion cyntaf i ymddangos ar y Ddaear oedd llysiau'r afu, mae gwyddonwyr wedi defnyddio'r rhain fel 'organebau enghreifftiol' i ddeall esblygiad tymor hir planhigion.

Mae'r astudiaeth newydd hon bellach yn awgrymu bod y planhigion tir cyntaf yn fwy cymhleth na llysiau'r afu, ac y bydd yn rhaid ailystyried ein rhagdybiaethau ar esblygiad planhigion tir.

Rhannu’r stori hon