Ewch i’r prif gynnwys

Gweinidog yr Economi yn ymweld â safle canolfan delweddu'r ymennydd newydd y Brifysgol

10 Mehefin 2015

Edwina stood with builders on CUBRIC construction site

Mae Edwina Hart AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, wedi ymweld â safle Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd newydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)

Mae Edwina Hart AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, wedi ymweld â safle Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd newydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Bydd y cyfleuster newydd modern gwerth ar Heol Maindy, sydd werth £44m, yn gartref i rhywfaint o'r dechnoleg MRI a Magnetoenceffalograffi (MEG) ddiweddaraf, yn ogystal â labordai, swyddfeydd ac ystafelloedd seminar. Bydd yn un o'r canolfannau mwyaf blaenllaw yn Ewrop ym maes ymchwil delweddu'r ymennydd er mwyn gwella dealltwriaeth o'r ymennydd.

Ar ôl ei chwblhau, bydd y CUBRIC newydd bedair gwaith yn fwy na chyfleusterau presennol y Brifysgol, gan olygu y bydd staff o wahanol adrannau yn gallu gweithio o dan yr un to gan gynyddu'r cyfleoedd i gydweithio ac arloesi.

Yn ystod ei hamser ar y safle, siaradodd y Gweinidog â nifer o brentisiaid adeiladu lleol sydd wedi cael y cyfle i gael hyfforddiant gwaith gwerthfawr fel rhan o'r prosiect. 

Roedd ei hymweliad hefyd yn cyd-daro â chyhoeddi adroddiad ymchwil newydd sy'n amlinellu, am y tro cyntaf, effaith economaidd y Brifysgol ar yr economi yn lleol ac yng Nghymru drwyddi draw. Yn ôl yr adroddiad, mae Prifysgol Caerdydd yn creu 13,355 o swyddi yng Nghymru, sy'n cyfateb i bron un y cant o holl gyflogaeth Cymru yn 2013 ac 1.3 y cant Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) Cymru. 

Bydd tua £300m yn cael ei fuddsoddi mewn adeiladau a chyfleusterau fel rhan o gampws arloesedd y Brifysgol. Bydd hyn yn ategu nod y Brifysgol i gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel canolfan sy'n cynhyrchu ffyniant a thwf yn y dyfodol ledled Cymru, y DU a gweddill y byd.

Rhannu’r stori hon