Ewch i’r prif gynnwys

Gweinidog yn cwrdd ag arloeswyr Medicentre

15 Chwefror 2018

Medicentre visit
Dr Neil Warren, Cyfarwyddwr Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru, yn egluro technolegau llawfeddygol yr Athrofa i’r Arglwydd Henley.

Cafodd technoleg feddygol ac ymchwil arloesol eu harddangos yn ystod taith un o weinidogion Llywodraeth y DU o amgylch Medicentre Cardiff.

Aeth yr Arglwydd Henley, Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), o amgylch cyfleusterau Medicentre a chyfarfod ag arweinwyr y cwmni yn ystod ymweliad â Phrifddinas Cymru.

Yn ôl y Gweinidog Busnes, sy'n arwain ar strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi: “Rwy’n llawn edmygedd o hyd a lled yr arloesi sy’n cael ei ddatblygu yn Medicentre Caerdydd.  Mae’r gwaith sy’n cael ei gynnal yn y cyfleuster yn adlewyrchu Strategaeth Ddiwydiannol fodern, uchelgeisiol y Llywodraeth, gan ddwyn ynghyd arbenigedd academaidd a gallu’r diwydiant i dyfu’r economi, a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Mae Cardiff Medicentre, sydd wedi’i rheoli ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn meithrin cwmnïau biotech a medtech sy’n dechrau arni. Caffaelwyd rhai gan fentrau mwy o faint am symiau gwerth miliynau o bunnoedd. Mae eraill yn parhau i godi cyfalaf menter wrth iddynt dyfu.

Yn ôl yr Athro Ian Weeks, Pennaeth Dros Dro yr Ysgol Meddygaeth a chyd-aelod o Fwrdd Medicentre, “mae’r Medicentre yn nodwedd allweddol o’r Partneriaeth Arloesedd Clinigol a ffurfiwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG a'r diwydiant er budd cleifion, budd iechyd economaidd a thwf economaidd”.

Yn ôl Peter Welsh, Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer Caerdydd a'r Fro ac aelod o Fwrdd Medicentre: “Yn sgil ymweliad yr Arglwydd Henley, cafodd y cwmnïau angor gyfle gwych i esbonio’r modd y mae eu gwaith yn alinio â Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth, gan drosi ymchwil i mewn i’r syniadau busnes sy’n llywio ystod o brosiectau newydd MedTech, o arbenigedd uwchsain MedaPhor i waith Alesi, sy’n datblygu technolegau sy’n gwella prosesau llawfeddygol uwch.”

Mae’r Medicentre – sydd wedi’i lleoli ar dir Prifysgol Athrofaol Cymru, yn agos i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd – yn cynnig 32 uned o swyddfeydd a wasanaethir a chyfleusterau labordy llaith sydd o fewn tafliad carreg i ymchwil academaidd blaengar ac ymarfer clinigol.

Rhannu’r stori hon