Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Phoenix ar y rhestr fer ar gyfer gwobr flaenllaw

15 Chwefror 2018

Phoenix Project

Mae prosiect Prifysgol Caerdydd i wella iechyd a lleihau tlodi yn Namibia ar y rhestr fer ar gyfer gwobr flaenllaw yng Nghymru.

Mae Prosiect Phoenix, dan arweiniad yr Athro Judith Hall, wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Dewi Sant, sy'n cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau rhagorol pobl a grwpiau o bob cefndir yng Nghymru.

Mae Prosiect Phoenix, mewn partneriaeth â Phrifysgol Namibia (UNAM), eisoes wedi cael effaith fawr ers iddo gael ei lansio yn y Senedd ym Mae Caerdydd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Mae'r prosiect yn cwmpasu tri maes cyffredinol – menywod, plant a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; a chyfathrebu. Ers i'r prosiect gael ei lansio, mae staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac UNAM wedi creu mwy na 30 o becynnau gwaith blaenllaw, a diogelwyd dros £1m o gyllid ariannol.

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Trawsnewid anesthesia yn Namibia drwy hyfforddi'r anesthetyddion cyntaf erioed yn y wlad
  • Lansio mentrau diogelwch ffyrdd llwyddiannus yn Namibia, gwlad lle mae'r ystadegau diogelwch ffyrdd ymhlith y gwaethaf yn y byd
  • Datblygu cymuned sy'n ysgrifennu meddalwedd côd agored yn y wlad, sydd wedi arwain at sefydlu eraill yn Affrica
  • Cefnogi a datblygu cymunedau amlieithog Namibia

Dywedodd yr Athro Hall: "Hoffwn dalu teyrnged i'r grŵp ymroddedig o bobl o Brifysgol Caerdydd sydd wedi gweithio ar draws ffiniau rhyngwladol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau llawer o bobl.

"At hynny, ni fyddai unrhyw ran o'r gwaith hwn wedi bod yn bosibl heb ein partneriaid ymroddedig, sef staff Prifysgol Namibia, sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddo ac sydd wedi dod yn ffrindiau i ni.

"Mae llawer o waith i'w wneud o hyd, ond gyda'r tîm talentog sydd gennym, mae unrhyw beth yn bosibl."

Mae Prosiect Phoenix ar y rhestr fer yn y categori rhyngwladol, sy'n cydnabod unigolyn neu grŵp o Gymru sy'n gwneud cyfraniad rhagorol yn rhyngwladol.

Enillodd y Prosiect wobr Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysg Uwch The Times y llynedd.

Rhannu’r stori hon