Ewch i’r prif gynnwys

Cardiff spin-out pioneers ‘AI’ ultrasound scanner

13 Chwefror 2018

Medaphor

Gall treial gan gwmni deillio Medaphor o Brifysgol Caerdydd fod o fudd i fenywod beichiog yn y dyfodol.

Mae Ysbyty St George yn Llundain yn treialu system ScanNav newydd Medaphor, sy'n defnyddio gwybodaeth artiffisial er mwyn cynnal adolygiad 'amser real' o ddelweddau uwchsain tra bod y claf yn cael ei sganio.

Yn y pen draw, gallai'r dechnoleg ganiatáu i fenywod beichiog gael sganiau mewn meddygfa neu ganolfan iechyd gyda'r meddyg teulu neu nyrs yn dehongli’r canlyniadau.

Mae ScanNav yn gwerthuso dros 50 o feini prawf ar wahân i wneud yn siŵr bod pob golwg sy'n ofynnol gan Raglen Sgrinio Anomaleddau Ffetws y GIG yn gyflawn ac yn addas i'r diben.

Mae'n gwneud hyn drwy ddefnyddio dros 350,000 o ddelweddau uwchsain a asesir gan banel o uwch-sonograffwyr.

Dengys astudiaethau cychwynnol fod y system, a ddefnyddir i hyfforddi sonograffwyr, cystal â sonograffydd arbenigol wrth ddarparu adolygiad cymheiriaid o ddelweddau. Yn y dyfodol, gallai alluogi staff meddygol nad ydynt wedi'u hyfforddi i ddehongli delweddau uwchsain i wneud sganiau.

Meddai Katy Cook, Prif Sonograffydd yn Adran Meddygaeth Ffetws Ysbyty St George: "Gallai hyn fod yn ddefnyddiol dros ben i sonograffwyr sydd newydd gymhwyso, neu'r rheiny sy'n hyfforddi, gan roi hyder iddynt a gwella’u sgiliau i gael technegau delweddu rhagorol.
Gallai’r feddalwedd hon hefyd awtomeiddio'r archwiliad angenrheidiol ar gyfer sganio obstetrig a dangos ansawdd a chymhwysedd ar gyfer pob sonograffydd mewn lleoliad clinigol prysur Mae'r dull newydd hwn o asesu delweddau yn hynod ddiddorol ac mae’n cynnig posibiliadau gwych."

Ychwanegodd Nick Sleep, prif swyddog technoleg MedaPhor: "Mae deall sut mae sonograffwyr arbenigol yn defnyddio ScanNav mewn amgylchedd clinigol yn ein helpu i bennu'n well sut bydd ein hamrywiaeth arfaethedig o gynhyrchion ScanNav yn cyd-fynd â llif gwaith adran meddygaeth ffetws brysur a chefnogi sonograffwyr a meddygon wrth gynnal sganiau uwchsain."

Credir mai ScanNav yw'r system cudd-wybodaeth artiffisial (AI) gyntaf sydd â nod CE i gynnal "adolygiad cyfoedion" awtomatig, "amser real" o ddelweddau uwchsain obstetrig wrth i'r claf gael ei sganio.

Sefydlwyd Medaphor yn 2004, gyda’i bencadlys yn Medicentre Caerdydd a Georgia, UDA. Mae’n darparu uwch-feddalwedd uwchsain a thechnolegau efelychu ar draws y byd ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol.

Rhannu’r stori hon