Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl Arloesedd Myfyrwyr yn dathlu syniadau mawr

14 Chwefror 2018

Chemistry students in a lab

Bydd Gŵyl Arloesedd Myfyrwyr sy'n rhoi syniadau creadigol ar waith yn dechrau ym Mhrifysgol Caerdydd y mis nesaf.

Bydd yr Ŵyl Arloesedd Myfyrwyr yn cynnwys sesiwn syniadau, cyflwyniadau, arddangosfeydd, a digwyddiadau dros dro, ac yn dod â myfyrwyr a staff o wahanol Ysgolion y Brifysgol ynghyd gyda phartneriaid yn y gymuned i archwilio ffyrdd newydd o ddatrys problemau yn y 'byd go iawn'.

Bydd yr ŵyl (9-16 Mawrth) yn paratoi'r ffordd ar gyfer lansio rhaglen 'Arloesedd i Bawb' yn ddiweddarach yn 2018, fydd yn arddangos ymchwil ddylanwadol yn y Brifysgol, hybu dealltwriaeth o arloesedd yng nghyd-destun dysgu, a helpu myfyrwyr Caerdydd i wella ei sgiliau entrepreneuraidd, arloesol, a meddwl yn greadigol.

Dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Mae'n bwysig iawn i ni baratoi myfyrwyr y dyfodol ar gyfer byd gwaith drwy eu helpu i feddwl yn greadigol a datrys problemau.

"Mae'r ŵyl yn rhan o'n cenhadaeth i sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Bydd ein rhaglen Arloesedd i Bawb yn cynnig cyfleoedd i'n holl fyfyrwyr elwa ar fod yn rhan o brifysgol arloesol – dangos diddordeb ym mhroblemau'r byd go iawn, a dysgu drwy leoliadau, rhaglenni neu brosiectau."

https://www.youtube.com/watch?v=dUi_EBDv7fc

Mae tîm o 'Lysgenhadon Arloesedd' wedi helpu i guradu'r ŵyl, fydd yn cynnwys amrywiaeth i ddigwyddiadau i beri syndod, herio ac annog myfyrwyr i ddatblygu meddylfryd arloesol.

Dywedodd y llysgennad a myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg yn ei thrydedd flwyddyn, Katherine Madge, 20, o Ddyfnaint "Rydym yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn codi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr am yr ymchwil ac arloesedd gwych yng Nghaerdydd, yn ogystal ag enyn diddordeb pobl mewn pethau cyffrous newydd. Gall mwy o ymwybyddiaeth o gwmpas y campws helpu i sbarduno trafodaethau a dod â'n hysgolion ynghyd i weithio gyda syniadau newydd."

Mae WeiWei Qui, 24, sy'n Llysgennad hefyd ac yn fyfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn cytuno.

"Mae llawer o bobl o'r farn mai buddsoddi, allforio, a phrynu yw'r sail i dwf economaidd, ond yn fy marn i, arloesedd yw'r ffactor mewn gwirionedd. Gall arloeswr da drechu'r cyfrifiadur gorau yn y byd i wthio ein byd ymlaen. Bydd yr ŵyl yn dangos pa mor greadigol gall ein myfyrwyr a thimau ymchwil fod – ac yn bwysicaf oll, bydd yn creu amgylchedd arloesol ar draws y Campws."

https://www.youtube.com/watch?v=45VY-E0Uq3Y

Mae uchafbwyntiau'r ŵyl sy'n para wythnos yn cynnwys:

  • Sesiwn Syniadau i Fyfyrwyr ddydd Sadwrn 10 Mawrth
  • Digwyddiad 'Dangos a Dweud' Caerdydd Creadigol ddydd Mawrth 13 Mawrth.
  • Arddangosfa Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher 14 Mawrth
  • Syniadau newydd mewn arloesedd clinigol ar draws campws Parc y Mynydd Bychan drwy gydol yr wythnos
  • Darlith 'Star Wars' yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yn cynnwys cynulleidfa o fyfyrwyr wedi eu gwisgo fel eu hoff gymeriadau o'r ffilmiau.

Cewch ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ar gyfer myfyrwyr Caerdydd ar fewnrwyd myfyrwyr y Brifysgol: chwiliwch am 'Gŵyl Arloesedd i Fyfyrwyr' ar y fewnrwyd.

Rhannu’r stori hon