Ewch i’r prif gynnwys

Lleoedd rhad ac am ddim yn yr hanner marathon

5 Chwefror 2018

Team Cardiff runners

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig mynediad rhad ac am ddim i redwyr i un o’r hanner marathonau mwyaf yng Nghaerdydd, tra’n codi arian ar gyfer ymchwil hanfodol ym maes iechyd.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd rhad ac am ddim ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd 2018 i'r rheini sy'n ymrwymo i godi arian ar gyfer ymchwil canser a niwrowyddoniaeth/iechyd meddwl y Brifysgol.

Bydd pob ceiniog o'r arian y bydd rhedwyr #TîmCaerdydd y Brifysgol yn ei godi yn mynd tuag at y gwaith hwn.

Unwaith eto, Prifysgol Caerdydd yw un o brif noddwyr yr hanner marathon. Mae’r ras eleni – sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed – yn cael ei chynnal ddydd Sul, 7 Hydref.

Yn ôl yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Mae ein ymchwilwyr yn mynd i'r afael â heriau iechyd mawr byd-eang, felly mae’r arian a godir gan #TîmCaerdydd yn amhrisiadwy.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried rhedeg hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd i ystyried cefnogi ein hymchwil canser/niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

“Diolch i'r rhai ohonoch sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer #TîmCaerdydd; gallai eich ymdrechion wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.”

Rhedodd tua 350 o staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr y Brifysgol, ac aelodau o'r cyhoedd y llynedd yn rhan o #TîmCaerdydd a chodi £65,000, gan chwalu'r targed o £100,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’r arian yn cefnogi ymchwilwyr i ehangu dealltwriaeth ynghylch canser a’i drin, yn ogystal â chlefydau niwrolegol gan gynnwys clefyd Alzheimer’s.

Cardiff Half Marathon

Yn ôl Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru, yr Athro John Chester: “Rwy'n gweld yr effaith y mae rhoddion yn ei chael ar bob rhan o'n gwaith, am eu bod yn galluogi ymchwilwyr sy'n archwilio celloedd mewn labordai, gwyddonwyr sy'n darganfod triniaethau ac yn datblygu treialon, a chlinigwyr sy'n trin cleifion.

“Gallai eich cefnogaeth rymuso unigolion i wneud dewisiadau am eu ffordd o fyw sy'n helpu i atal canser, neu gyfrannu at driniaethau mwy penodol a llai dwys i gleifion sy'n agored i niwed, neu roi amser ychwanegol i deuluoedd gyda'r bobl sy'n annwyl iddynt.”

Rhaid i redwyr #TîmCaerdydd ymrwymo i godi o leiaf £200, neu £150 os ydych yn fyfyriwr.

Cynhelir digwyddiad lansio #TîmCaerdydd 2018 ddydd Iau 15 Chwefror yn Oriel Viriamu Jones y Brifysgol, Prif Adeilad, Plas y Parc, rhwng 17:30 a 19:30.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhedeg ar gyfer #TîmCaerdydd i alw heibio i gael gwybod mwy. Gall rhedwyr posibl hefyd fanteisio ar wiriad iechyd rhad ac am ddim a chyngor ynghylch rhedeg gan ein hadran Chwaraeon.

Yn ogystal, bydd pecyn rhedwyr #TîmCaerdydd sy’n cynnwys cyrs T technegol ar gyfer rhedeg, potel ddŵr a phecyn codi arian ar gael i’n rhedwyr cofrestredig i’w casglu ar y noson.

Cofrestrwch eich lle yn y lansiad yma neu, os na allwch fod yno, mynegwch eich diddordeb mewn rhedeg dros #TîmCaerdydd yma.

Rhannu’r stori hon

Mae yna nifer o ffyrdd hwylus i godi arian i gefnogi gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd.