Ewch i’r prif gynnwys

Hafan ffrwythlon i leisiau llenyddol newydd - Yr Ysgol yn dathlu enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015

8 Mehefin 2015

Dr Llŷr Gwyn Lewis, enillydd y categori Ffeithiol Greadigol yn Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2015

Roedd Dr Llŷr Gwyn Lewis, darlithydd a chyn-fyfyriwr yn Ysgol y Gymraeg, yn dathlu yr wythnos diwethaf wedi iddo ennill yn y categori Ffeithiol Greadigol yn Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2015.

Astudiodd Llŷr am radd cyd-anrhydedd Llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg yng Nghaerdydd cyn cwblhau ei ddoethuriaeth, dan ofal Ysgol y Gymraeg a'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, yn 2013.

Wedi derbyn sylw mewn dau gategori, gyda Storm ar Wyneb yr Haul ar y rhestr fer ar gyfer Barddoniaeth, Rhyw Flodau Rhyfel ddaeth â llwyddiant i Llŷr. Ynghlwm â'r fuddugoliaeth oedd siec am £2,000 a thlws dur wedi'i gynllunio a'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Disgrifiwyd Rhyw Flodau Rhyfel gan y beirniad, Hywel Griffiths, fel 'cyfrol uchelgeisiol a heriol sy'n mynd â ni ar hyd llwybrau meddwl dyn ifanc yn yr 21ain ganrif.'

Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo yng Nghaernarfon, dan ofal y newyddiadurwraig Siân Lloyd a'r actores Ffion Dafis, ac yng nghwmni'r enwebeion, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Yn ogystal â buddugoliaeth Llŷr, daeth un o gyn-fyfyrwyr eraill yr Ysgol i'r brig yn y categori Barddoniaeth. Enillodd Rhys Iorwerth am ei gyfrol Un Stribedyn Bach.

Wedi'r dathlu, dywedodd Llŷr: 'Mae hon yn anrhydedd arbennig iawn ac rydw i'n ddiolchgar dros ben i'r beirniaid ac i'm teulu a'm ffrindiau am eu holl gefnogaeth. Dwi wedi synnu'n fawr ond yn hapus iawn bod Rhyw Flodau Rhyfel wedi derbyn y fath sylw. Roedd hi'n noson wych ac yn dda i gael cwrdd â'r enwebeion eraill a dathlu yn eu cwmni.'

Ychwanegodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: 'Mae canlyniadau Llyfr y Flwyddyn eleni yn wych. Rydw i'n hynod falch o lwyddiant haeddiannol Llŷr a Rhys; dwi'n edrych ymlaen at weld sut y byddant yn datblygu a'r gwaith newydd y byddant yn ei gynhyrchu.

"Mae Ysgol y Gymraeg wedi bod yn hafan ac yn feithrinfa i rai o lenorion ac ysgolheigion mwyaf Cymru ac mae'n bleser gweld cenhedlaeth newydd yn dod i'r amlwg.'

Bydd yr Ysgol yn dathlu llwyddiant Llŷr a Rhys yr wythnos nesaf yn y Stomp flynyddol rhwng y darlithwyr ac aelodau'r Gym Gym. Bydd Llŷr yn arwain tîm y staff ac fe fydd Rhys yn cadw trefn ar y noson yng nghwmni Osian Rhys Jones. Am ragor o fanylion am y Stomp, cysylltwch â Cadi Thomas.

Rhannu’r stori hon