Ewch i’r prif gynnwys

University supports disadvantaged pupils into higher education

31 Ionawr 2018

Step up programme

Mae Prifysgol Caerdydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ddisgyblion o grwpiau sy'n agored i niwed a dan anfantais ar fwyd yn y brifysgol drwy raglen uchelgeisiol dros ddwy flynedd.

Mae Camu i Fyny i'r Brifysgol yn gynllun academaidd rhad ac am ddim i fyfyrwyr coleg a chweched dosbarth sy'n cynnig cipolwg gwerthfawr ar addysg uwch drwy gwrs academaidd, ysgol haf a digwyddiadau.

Mae tua 250 o ddisgyblion a 100 o rieni ledled de Cymru wedi cofrestru ar gyfer y sesiwn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Mercher 31 Ionawr.

Dywedodd Scott McKenzie, Pennaeth Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth Cymunedol y Brifysgol: "Drwy weithio ar y cyd i godi dyheadau, mae rhaglen Camu i Fyny yn cynnig cymorth ymarferol yn ogystal ag arweiniad a chymorth wedi'u teilwra i helpu'r rhai sydd â'r gallu i lwyddo mewn addysg uwch.

"Drwy ddosbarthiadau meistr, digwyddiadau a gweithdai, ein nod yw helpu i gael gwared ar yr hyn sy'n rhwystro'r grwpiau hyn rhag cyrraedd addysg uwch, a rhoi'r sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar fyfyrwyr i wireddu eu potensial yn y brifysgol.

"Mae hwn yn gwbl wahanol i unrhyw beth rydym wedi'i wneud o'r blaen oherwydd rydym yn cynnig cyfle i ddisgyblion o grwpiau sy'n agored i niwed a dan anfantais gwblhau cwrs prifysgol byr yn ogystal ag ysgol haf breswyl."

Cofrestrodd y disgyblion i gymryd rhan mewn cwrs academaidd a grëwyd i'w helpu i wella'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i astudio mewn prifysgol.

Step up programme

Drwy'r sesiynau misol, bydd y bobl ifanc yn datblygu sgiliau cyflwyno, dadansoddi ac ymchwil.

Cynhelir y sesiynau drwy amrywiaeth o ddulliau addysgu ac maent yn rhyngweithiol er mwyn helpu i wella hyder a hunan-fri.

Mae'r bobl ifanc yn dewis o blith pum ffrwd – Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Bywyd, Gwyddorau Iechyd, Gwyddorau Ffisegol a'r Dyniaethau – a chynhelir y sesiynau unwaith y mis rhwng nawr a diwedd mis Mai.

Bydd pob myfyriwr yn cael tiwtor academaidd ac, yn amodol ar delerau ac amodau, bydd y rhai sy'n mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael bwrsariaeth sy'n seiliedig ar brawf modd.

Mae'r rhaglen yn cynnwys ysgol haf ym mis Gorffennaf lle bydd y disgyblion sydd wedi ymrwymo'n llwyddiannus i'r cynllun yn cael gwahoddiad i aros dros nos mewn neuadd breswyl. Byddant yn cymryd rhan mewn cynhadledd academaidd fach fydd yn cynnwys arddangosfa a chyflwyniadau posteri i gloi.

Step up programme

Yn ystod y sesiynau misol, gwahoddir rhieni a gwarcheidwaid hefyd i gymryd rhan mewn cyrsiau byr ar y campws ar yr un pryd â'r bobl ifanc.

Ychwanegodd Mr McKenzie: "Diben hwn yw ceisio ennyn diddordeb rhieni ym myd dysgu er mwyn iddynt allu annog y bobl ifanc i ddal ati."

Rhannu’r stori hon