Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-fyfyrwraig yr Ysgol yn ennill Ysgoloriaeth Geraint George 2015

2 Mehefin 2015

Sioned James, enillydd Ysgoloriaeth Geraint George 2015

Sioned James, o Abertawe, sydd yn derbyn Ysgoloriaeth Geraint George 2015. Cyhoeddwyd y newyddion yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch yr wythnos diwethaf.

Astudiodd Sioned am radd cyd-anrhydedd LLB Y Gyfraith a'r Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd gan raddio  yn 2013. Mae hi nawr yn astudio i fod yn far-gyfreithwraig yma yng Nghaerdydd.

Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri er cof Geraint George, a oedd yn addysgwr ac amgylcheddwr nodedig. Mae'r Ysgoloriaeth ar agor i unigolion rhwng 18 a 25 mlwydd oed gyda'r nod o fagu cyfathrebwyr dawnus sydd yn gallu ysbrydoli ac annog pobl yng Nghymru i werthfawrogi'r byd naturiol a hybu dealltwriaeth o'i ddylanwad arnyn nhw.

Roedd gofyn i'r ymgeiswyr cyfrannu gwaith cyfathrebu, mewn unrhyw gyfrwng ac ar bwnc amgylcheddol o'u dewis nhw. Fel enillydd 2015, bydd Sioned yn cael dewis rhwng ymweld â Pharc Cenedlaethol Triglav yn Slofenia neu fynychu cynhadledd Ewroparc. Yn ogystal â hyn, bydd Sioned yn cael manteisio ar fentor ym Marc Cenedlaethol Eryri neu Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn ei helpu i ddatblygu gyrfa ym maes yr amgylchedd.

Rhannu’r stori hon