Ewch i’r prif gynnwys

Pennaeth Dros Dro Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

26 Ionawr 2018

David Whittaker1

Penodwyd yr Athro David Whitaker yn Bennaeth Gweithredol ar Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, lle bydd yn goruchwylio holl weithgareddau’r Ysgol wrth iddi geisio adeiladu ar ei rhagoriaeth o ran dysgu, addysgu ac ymchwil.

Bydd yr Athro Whitaker, sydd ar hyn o bryd yn Athro Optometreg ac yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Llygaid, yn cychwyn yn ffurfiol yn ei swydd o’r 1af o Fawrth, pryd y bydd Pennaeth presennol yr Ysgol, yr Athro Heather Waterman, yn ymddeol.

Dywedodd yr Athro Whitaker: "Rwy’n eithriadol o gyffrous fy mod yn ymuno ag Ysgol mor nodedig, ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi pob un o ddisgyblaethau proffesiynol y Gwyddorau Gofal Iechyd i hyrwyddo rhagoriaeth ym meysydd addysgu, ysgolheictod ac ymchwil."

Mae rolau allanol yr Athro Whitaker, sy’n optometrydd cofrestredig ac yn athro ac ymchwilydd gweithgar, yn cynnwys bod yn Is-lywydd Uwch ar Gymdeithas yr Optometryddion ac yn aelod o’r

panel ac yn gadeirydd ar banel achredu rhaglenni y Cyngor Optegol Cyffredinol. Mae ganddo ddiddordebau ymchwil ym maes canfyddiad gweledol ac amserol ac ymhlith ei gyhoeddiadau diweddar mae papurau mewn cylchgronau rhyngwladol gan gynnwys Trafodion Academi Genedlaethol UDA, Trafodion y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain, y Journal of Vision, ac Ymchwil Arbrofol ar yr Ymennydd.

Dywedodd yr Athro Gary Baxter - Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda David yn ei rôl newydd, ac rwy’n hyderus y bydd ehangder ei brofiad a’i ddoethineb fel athro, ymchwilydd ac arweinydd yn ei broffesiwn gofal iechyd yn sicrhau bod Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn parhau i ffynnu."

Rhannu’r stori hon