Ewch i’r prif gynnwys

Triniaeth newydd bosibl ar gyfer mathau datblygedig o ganser

25 Ionawr 2018

Potential new treatment for advanced cancers

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dod o hyd i driniaeth bosibl ar gyfer cleifion canser y fron sydd â’r gallu i wrthsefyll therapi.

Mae’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ailbwrpasu triniaeth ganser bresennol, TRAIL, er mwyn dod o hyd i driniaeth ar gyfer canserau datblygedig sydd â’r gallu i wrthsefyll therapi gwrth-hormon.

Bydd gan hyd at 75% o fenywod sydd wedi’u diagnosio â chanser y fron, math o ganser sy’n cael ei lywio gan signalau estrogen, a bydd bron â bod pob un o’r menywod hynny’n cael therapi gwrth-hormon – fel yr atalwyr Tamoxifen neu Aromatase – i drin eu canser. Yn anffodus, bydd hyd at 40% o gleifion sy’n cael y triniaethau hormon hynny yn datblygu’r gallu i’w gwrthsefyll, gan arwain at ail bwl o’r clefyd, a math ymosodol ohono.

Yn ôl Dr Luke Piggott o’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae rhan o ffocws ein gwaith ymchwil yn ymwneud â datblygu mathau newydd o therapi – sydd â sgil-effeithiau isel – ar gyfer canserau’r fron sy’n gallu gwrthsefyll triniaethau gwrth-hormon.

“Mae TRAIL eisoes wedi’i roi ar brawf gyda sawl math o ganser, ond nid yw wedi bod o fudd i gleifion hyd yma.

“Fodd bynnag, rydym o’r farn ein bod wedi dangos y bydd cleifion sy’n datblygu’r gallu i wrthsefyll triniaeth yn buddio o’r therapi TRAIL, am ein bod wedi nodi newidiadau penodol yng nghelloedd canser y cleifion hynny, sy’n golygu bod eu tiwmorau’n dod yn sensitif i driniaeth TRAIL.

“Yn ogystal, rydym wedi dangos – yn y grŵp hwn o gleifion – bod triniaeth TRAIL yn targedu math penodol o gell mewn tiwmor o’r enw bôn-gell canser. Mae bôn-gelloedd canser yn wahanol i'r celloedd canser eraill, am mai’r rheini yw’r celloedd sy’n gyfrifol am ysgogi tiwmorau i dyfu a lledu, a dangoswyd hefyd bod ganddynt y gallu i wrthsefyll therapi.

Roedd tîm Dr.  Richard Clarkson o ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd wedi profi TRAIL ar samplau o diwmorau a gasglwyd gan gleifion canser a ddatblygodd y gallu i wrthsefyll therapi gwrth-hormon.

Dangosodd eu canfyddiadau bod TRAIL yn lladd bôn-gelloedd canser o’r cleifion hynny’n ddetholus, ond bod tiwmorau nad oeddent wedi datblygu’r gallu i wrthsefyll Tamoxifen heb gael eu heffeithio gan TRAIL.

Yn ôl Dr Richard Clarkson: “Bôn-gelloedd canser yw’r celloedd sy’n gyfrifol am ail byliau ac am ledu canser. Felly, drwy dargedu’r celloedd hynny, ynghyd â rhan helaeth o’r tiwmor, gallem drawsnewid sut rydym yn trin canser, yn enwedig ar gyfer y rheini sydd â’r gallu i wrthsefyll triniaethau gwrth-hormon.”

Dangosodd 82 y cant o samplau tiwmor â’r gallu i wrthsefyll gwrth-hormonau ymateb amlwg i TRAIL, a dim ond 8 y cant o samplau tiwmor na welsant y therapi gwrth-hormon yn flaenorol, wnaeth ymateb.

Dangosodd ein modelau arbrofol bod tiwmorau wedi crebachu ar ôl cael eu trin gan TRAIL. Yn ogystal, roeddynt wedi dangos gostyngiad ym maint y tiwmorau a faint ohonynt sydd wedi lledu i organau eraill – proses o’r enw metastasis.

Yn ôl Dr Richard Clarkson: “Er bod mwy o waith ymchwil i'w wneud cyn i’r cyffur newydd hwn fynd i glinig, mae TRAIL yn cynnig therapi hynod addawol ar gyfer cleifion sydd heb lawer o opsiynau ar hyn o bryd.”

https://youtu.be/4g8begghr2c