Ewch i’r prif gynnwys

Academydd sydd wedi addysgu mwy o newyddiadurwyr papur newydd ym Mhrydain nag unrhyw un arall yn rhoi'r gorau iddi ar ôl 35 mlynedd yn ysgol newyddiaduraeth flaenllaw Caerdydd

3 Mehefin 2015

David English 2
David English

Mae un o ddarlithwyr Prifysgol Caerdydd, sydd yn ôl pob tebyg wedi addysgu mwy o newyddiadurwyr papur newydd ym Mhrydain nag unrhyw un arall, wedi rhoi ei feiro goch o'r neilltu yn swyddogol ar ôl 35 mlynedd wrth y llyw ar un o gyrsiau newyddiaduraeth mwyaf hirsefydlog a llwyddiannus y DU

Yr haf hwn, bydd David English – y mae ei gynfyfyrwyr yn cynnwys llawer o newyddiadurwyr gorau'r DU ar gyfer The Times, Telegraph, The Guardian, Daily Mirror a'r BBC, yn ogystal â phapurau newydd rhanbarthol ym mhob cwr o'r wlad – yn ymddeol o'i swydd fel Cyfarwyddwr Papurau Newydd yn Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.

Yn ystod ei gyfnod yn yr Ysgol – sef ysgol newyddiaduraeth orau'r DU yn ôl Arweiniad Prifysgolion The Guardian 2016 – mae David wedi goruchwylio hyfforddiant mwy na 1000 o newyddiadurwyr. Mae llawer ohonynt bellach yn y swyddi pwysicaf ym maes newyddiaduraeth papurau newydd Prydain.

Dros y tri degawd diwethaf, mae wedi goruchwylio cyfnod pontio'r Ysgol o fod yn ganolfan fach ar gyfer paratoi golygyddol, i'r hyn sydd yno heddiw, sef canolfan amlddisgyblaeth, o fri rhyngwladol, ar gyfer hyfforddiant yn y cyfryngau.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r ganolfan wedi addasu fel ei bod ar flaen y gad o ran datblygiadau digidol, ond mae'n dal i gadw ei hymrwymiad at werthoedd craidd a chadarn newyddiaduraeth dda.

Mae David yn adnabyddus i'w gynfyfyrwyr am ei frwdfrydedd dros Glwb Rygbi Gleision Caerdydd, ac am ei adborth di-flewyn ar dafod ar waith y myfyrwyr – bob amser mewn inc coch. Mae ei fyfyrwyr a'i gydweithwyr yn hoff iawn ohono yn sgîl ei ddull addysgu di-lol, ond teg a llawn hiwmor.

Enillodd David radd mewn Hanes Modern ym Mhrifysgol Rhydychen, a bu'n hyfforddi fel newyddiadurwr gyda Phapurau Newydd Thomson Regional (Trinity Mirror bellach), ar bapur newydd Belfast Telegraph ac yna The Journal, Newcastle. Ym 1980, cafodd swydd fel tiwtor Gweinyddiaeth Gyhoeddus yng Nghanolfan Hyfforddiant Golygyddol Thomson yng Nghaerdydd, cyn ymuno â chyn-Ganolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr Canolfan Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd: "Yn ôl pob tebyg, mae David English wedi hyfforddi mwy o newyddiadurwyr papur newydd ym Mhrydain nag unrhyw un arall. Mae hynny'n dipyn o gamp! Y ganmoliaeth uchaf a gewch gan David yw eich galw'n "newyddiadurwr go iawn". Newyddiadurwr y newyddiadurwyr yw David.

"Caiff egni a nerth newyddiaduraeth papur newydd Prydain ei barchu ym mhedwar ban byd, ac yr oedd rôl David yn allweddol wrth gynnal a meithrin yr enw da hwn drwy gyfrwng yr holl fyfyrwyr sydd wedi dod drwy ddrysau'r Ysgol.

"Mae wedi bod yn bresenoldeb dylanwadol ar gyfer llawer o newyddiadurwyr ifanc, drwy gydol blynyddoedd cynharaf eu gyrfaoedd, ac o'r herwydd, mae'n uchel iawn ei barch."

Michael Hill fydd yn olynnu David. Mae gan Michael brofiad o bron i 20 mlynedd fel newyddiadurwr, gan gynnwys cyfnod fel Golygydd South Wales Echo a Phennaeth Amlgyfryngau ar gyfer Trinity Mirror.

Mae Michael wedi gweithio gyda rhai o'r sefydliadau newyddion mwyaf ym Mhrydain ac wedi treulio amser yn edrych ar weithrediadau newyddion digidol arloesol yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop. Yn ystod ei yrfa fel newyddiadurwr, mae wedi adrodd ar drychineb Corwynt Mitch yn Hondwras, angladd y Dywysoges Diana o du mewn i Abaty San Steffan, rownd derfynol yn Wembley a brwydr i achub gwneuthurwr trenau olaf Prydain.

Roedd yn Olygydd Newyddion yn ystod 9/11, ac mae wedi cyfweld â phobl amrywiol, o Brif Weinidogion i bobl sydd wedi goroesi trychinebau difrifol. Mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am dimau ymgyrchu ac ymchwilio arobryn ac amddiffyn straeon yn y llys yn erbyn gwaharddebau, dirmyg a honiadau enllib. Fel golygydd a golygydd y we, mae hefyd wedi ail-ddylunio papurau newydd, a datblygu modelau newydd o weithredu ystafelloedd newyddion.

Meddai Michael: "Mae graddedigion Caerdydd bob amser yn gadael gyda sylfaen gadarn o ran egwyddorion sylfaenol newyddiaduraeth print ac ar-lein, a dealltwriaeth gadarn o gyfraith a moeseg y cyfryngau, ond rwyf yn ymuno â'r Ysgol ar adeg pan mae'n datblygu'r hyn mae'n ei gynnig ymhellach. Bydd y cwrs Newyddiaduraeth Newyddion, fel y caiff ei alw bellach, yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr feithrin eu diddordebau ymhellach, ac astudio modiwlau adrodd arbenigol mewn data, chwaraeon, gwleidyddiaeth, busnes, moduro a newyddiaduraeth defnyddwyr a ffordd o fyw."

"Mae'n gyfnod newydd hynod gyffrous ar gyfer yr Ysgol – sydd â safle cwbl haeddiannol yn y tablau cynghrair fel y ganolfan hyfforddiant newyddiaduraeth orau yn y DU – ac yr wyf yn edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr newydd ym mis Medi, a dechrau'r broses o'u trawsnewid yn newyddiadurwyr y dyfodol."

Mae Michael wedi dechrau ar ei swydd newydd yr wythnos hon.

Michael Hill
Michael Hill

Michael has worked with some of the biggest news organisations in Britain and spent time looking at pioneering digital news operations in the United States and Europe. His career as a journalist has seen him report on the disaster caused by Hurricane Mitch in Honduras, the funeral of Princess Diana from inside Westminster Abbey, a Wembley final and the battle to save Britain's last train maker.

He was a News Editor during 9/11 and has interviewed subjects from Prime Ministers to survivors of major disasters, as well as running award-winning campaigns and investigations teams and defending stories in court against injunctions, contempt and libel claims. As an editor and web editor, he has also redesigned newspapers and developed new newsroom-operating models.

Michael said: "Cardiff graduates always leave with a solid grounding in the fundamental principles of print and online journalism and a strong grasp of media ethics and law, but I'm joining the School at a time when it is further developing its offering. The News Journalism course, as it will now be known, will also give students the opportunity to hone their interests further and study specialist reporting modules in data, sport, politics, business, motoring and lifestyle and consumer journalism."

"It's a hugely exciting new phase for the School - rightly positioned in league tables as the leading journalism training ground in the UK - and I'm looking forward to welcoming the new intake of students in September and beginning the process of turning them into the next generation of journalists."

Michael has taken up his role this week.

Rhannu’r stori hon