Ewch i’r prif gynnwys

Mwtaniadau genetig yn helpu i frwydro yn erbyn clefydau a pharasitiaid

23 Ionawr 2018

Colourful guppy fish

Ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd am bysgod gypi yn dangos manteision mwtaniadau mewn genynnau imiwnedd wrth frwydro yn erbyn clefydau.

Mae tîm o ymchwilwyr wedi darganfod bod fersiynau newydd o enynnau sy'n gysylltiedig â chanfod parasitiaid a’u gwrthsefyll, yn helpu i ddiogelu yn erbyn heintiau.

Mae’r astudiaeth a gynhelir ar y cyd gan Brifysgol Adam Mickiewicz, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol East Anglia a Phrifysgol India’r Gorllewin, wedi defnyddio pysgod gypi i astudio mwtaniadau mewn genynnau sy’n gysylltiedig ag imiwnedd. Genynnau Histogydnawsedd Cymhleth o Bwys yw enwau’r genynnau hyn.

Dywedodd Jo Cable, o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae’r genyn Histogydnawsedd Cymhleth o Bwys yn cyfrannu at greu proteinau sy'n helpu i nodi heintiau a chlefydau.

"Er mwyn edrych ar rôl y genynnau hyn mewn clefydau, aethom ati i astudio pysgod gypi oedd wedi'u heintio â llyngyr parasitig.

“Llyngyren ectobarasitig Gyrodactylus sp. oedd y pathogen yn yr arbrawf. Dyma lyngyren sy’n adnabyddus am niweidio’r unigolyn sy’n ei chynnal drwy achosi heintiau a chlefydau.

"Mae pathogenau a’r bobl sy’n eu cynnal bob amser yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth esblygol yn erbyn ei gilydd.

"Mae pobl yn canfod ffyrdd newydd o frwydro yn erbyn pathogenau, ac mae’r pathogenau yn dod o hyd i ffyrdd newydd o osgoi amddiffynfeydd y bobl sy’n eu cynnal."

Daeth i’r amlwg yn yr arbrawf tair blynedd yn Nhobago bod y parasitiaid yn llai llwyddiannus wrth heintio’r pysgod gypi oedd ag amrywiadau o’r genynnau Histogydnawsedd Cymhleth o Bwys, ac roeddent yn llai tebygol o achosi clefyd neu haint.

“Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth arbrofol ddangos y fantais o gael mwtaniad newydd mewn genynnau Histogydnawsedd Cymhleth o Bwys yng nghyd-destun clefydau heintus mewn bywyd gwyllt.”

Rhannu’r stori hon