Ewch i’r prif gynnwys

Gyrru economi Cymru

2 Mehefin 2015

Haydn Ellis zoomed in

Y Brifysgol yn cael effaith 'ledled Cymru'

Yn ôl adroddiad newydd, mae'r manteision economaidd a gynhyrchir gan brifysgol ymchwil-ddwys yng Nghymru yn cael effaith yng Nghaerdydd a ledled Cymru. 

Mae adroddiad a gynhyrchwyd gan Viewforth Consulting LTD ar gyfer y Brifysgol, yn amlinellu, am y tro cyntaf, effaith economaidd Prifysgol Caerdydd ar yr economi leol a'r economi ehangach yng Nghymru.

Gan ystyried gwariant ei myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o weddill y DU, mae'n dod i'r casgliad fod yr unig brifysgol ymchwil-ddwys yng Nghymru sydd yng Ngrŵp Russell yn creu cyfanswm o tua 13,355 o swyddi yng Nghymru. Mae hyn yn cyfateb i bron un y cant o holl gyflogaeth Cymru yn 2013 ac 1.3 y cant o Werth Ychwanegol Gros (GVA) Cymru.  

"Rydym yn gwybod bod gan brifysgolion rôl allweddol o ran cefnogi twf economaidd, gwella cyfleoedd, creu swyddi a rhoi manteision i gymunedau lleol, yn ogystal â hyrwyddo dyfeisgarwch ac arloesedd," yn ôl Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Colin Riordan.

Ychwanegodd: "Fodd bynnag, mae'r adroddiad hwn yn treiddio am y tro cyntaf erioed i lefelau lleol, cenedlaethol a'r DU i roi darlun clir o rôl allweddol Prifysgol Caerdydd yn economi Caerdydd, Cymru a'r DU yn ehangach".

Dyma rai o uchafbwyntiau'r adroddiad:

  • Mae'r Brifysgol yn denu 12,045 o fyfyrwyr i Gymru o rannau eraill o'r DU
  • Mae'r Brifysgol yn denu 6,605 o fyfyrwyr i Gymru o du allan i'r DU
  • Yn gyffredinol, mae Prifysgol Caerdydd, ynghyd â gwariant ei myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o weddill y DU, yn cynhyrchu 13,355 o swyddi
  • Mae'r Brifysgol yn cynhyrchu cyfanswm o £168m mewn enillion allforio
  • £456m yw allbwn y Brifysgol yn ogystal â £613m yn ychwanegol mewn diwydiannau eraill ledled y DU, gyda'r mwyafrif (£458m) yng Nghymru. Mae myfyrwyr o du allan i'r UE yn cynhyrchu £94m o allbwn i economi Cymru
  • Cynhyrchodd y Brifysgol ar ei phen ei hun £518m o GVA Cymru. £696m yw cyfanswm effaith gyfunol y Brifysgol a'i myfyrwyr ar GVA Cymru. Roedd hyn yn cyfateb i 1.34 y cant o holl GVA Cymru yn 2013.

"Drwy ddenu myfyrwyr o bell i astudio yng Nghymru, mae'n amlwg fod y Brifysgol yn denu arian ychwanegol i Gymru ac yn hybu enillion allforio.

"Mae'r astudiaeth yn dangos bod Prifysgol Caerdydd o bwys economaidd mawr i economi Cymru, a'i bod yn dod â manteision uniongyrchol i Gymru o ran cynhyrchu allbwn, creu swyddi a'i chyfraniad at GVA Cymru.

"Er mai yng Nghaerdydd y gwelir y rhan fwyaf o'n heffaith economaidd, mae'r Brifysgol yn cael effaith o bwys ar economi rhannau eraill o Gymru hefyd, gyda bron un rhan o dair o'r holl effaith economaidd yn digwydd y tu allan i Gaerdydd ac ym mhob sir arall yng Nghymru.

"Mae hyn yn adlewyrchu'r ffordd y mae effaith gwariant yn treiddio trwy'r economi, gan olygu bod gweithgareddau'r Brifysgol yn dal i gynnig manteision i leoedd sy'n gymharol bell o Gaerdydd," ychwanegodd yr Athro Riordan.

Yn ddiweddar, cafodd Prifysgol Caerdydd ei chanlyniadau gorau erioed am ei hymchwil, ac mae'n bumed ymhlith prifysgolion y DU am ragoriaeth ymchwil ac yn ail am effaith ei hymchwil.

Gyda chynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i gyflwyno campws arloesedd newydd gwerth £300m, ei nod yw bod ymhlith 100 prifysgol orau'r byd ac ymhlith yr 20 orau yn y DU erbyn 2017.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi adroddiad arall nes ymlaen eleni sy'n edrych ar effaith ehangach y Brifysgol.

Darllenwch yr adroddiad effaith economaidd llawn

Rhannu’r stori hon