Ewch i’r prif gynnwys

Gwella sgiliau bydwreigiaeth o Gymru i Namibia

15 Ionawr 2018

Midwives Phoenix Project

Ymwelodd grŵp o uwch-weithwyr proffesiynol bydwreigiaeth o Brifysgol Caerdydd â Namibia yn rhan o raglen i wella sgiliau ymysg bydwragedd mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd y wlad.

Prosiect Phoenix y Brifysgol greodd y cysylltiad â Phrifysgol Namibia yn 2014 yn y lle cyntaf, ac mae rhan sylweddol o'r gwaith yn ymwneud â goresgyn yr heriau a wynebir gan weithwyr proffesiynol iechyd yn y wlad.

Darparu sesiynau diweddaru sgiliau clinigol ymarferol a hyfforddiant efelychu ar gyfer addysgwyr bydwreigiaeth a bydwragedd clinigol o ysbytai lleol oedd ffocws yr ymweliad y tro hwn. Roedd pynciau'n cynnwys sgiliau brys megis dadebru babanod newydd-anedig, pwytho a diogelwch nodwyddau a sut i helpu babi sydd mewn safle o chwith i gael ei eni.

Dywedodd Grace Thomas, Bydwraig Arweiniol ar gyfer Addysg a Phennaeth Proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o'r hyfforddwyr ar y daith: "Un o'r pethau a wnaeth argraff fawr arnaf am fydwragedd Namibia oedd eu brwdfrydedd am eu gwaith a'u gallu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd lle mae adnoddau yn brin.

"Roedd yn brofiad arbennig iawn; yn ogystal â chefnogi ein cydweithwyr yno i ddiweddaru sgiliau a nodwyd ganddynt fel rhai heriol, teimlais fy mod i a’r tîm hefyd wedi gallu dysgu llawer iawn ganddynt hwythau.

"Un uchafbwynt penodol oedd gallu ymweld ag un o'r unedau mamolaeth gwledig yn Ysbyty Gwladol Onandjokwe sy'n gyfrifol am helpu tua 7,000 o fabanod y flwyddyn i gael eu geni a gweld yr effaith uniongyrchol mae ein hyfforddiant yn ei chael."

Dywedodd un bydwraig glinigol a dderbyniodd hyfforddiant gan dîm Caerdydd: "Roedd y cwrs mor ddefnyddiol a pherthnasol, [Dwi] yn dymuno i'r holl nyrsys / bydwragedd gael yr hyfforddiant, er mwyn cynyddu eu hyder wrth ddelio â heriau dyddiol ym maes mamolaeth."

Ariannwyd y gwaith yn rhannol gan grant gan Hub Cymru Affrica a gefnogir gan raglen Lywodraeth Cymru o'r enw Cymru o Blaid Affrica.

Meddai Cath Jones, Pennaeth Partneriaethau yn Hub Cymru Africa: "Rhan allweddol o'n gwaith yw cefnogi gweithio mewn partneriaeth a rhannu sgiliau.

"Mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn elwa o'r sgiliau hyfforddi a'r profiadau o weithio mewn amgylcheddau heriol fel hyn. Mae'r rhain yn eu cynorthwyo wrth ddychwelyd i Gymru ac yn ein helpu ni i ddatblygu gweithlu profiadol brwdfrydig a gwydn yn ein gwasanaethau iechyd. Roedd yr ymweliad yn rhan o bartneriaeth Prosiect Phoenix â Phrifysgol Namibia i leihau tlodi a hyrwyddo iechyd yn Namibia.

Rhannu’r stori hon