Ewch i’r prif gynnwys

Y brifysgol i gynnal digwyddiad pwysig ynghylch y gymdeithas a gwyliadwriaeth ar ôl datgeliadau Snowden

2 Mehefin 2015

Surveillance cameras

Bydd cynhadledd bwysig ar 18 a 19 Mehefin 2015 yng Nghaerdydd yn dwyn ynghyd newyddiadurwyr, ymchwilwyr rhyngwladol, eiriolwyr preifatrwydd a datblygwyr technoleg i drafod cysylltiadau rhwng y wladwriaeth, y cyfryngau a dinasyddion yn sgîl datgeliadau Snowden

Mae'r digwyddiad yn rhan o brosiect ymchwil ehangach a gaiff ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, o'r enw 'Dinasyddiaeth Ddigidol a Chymdeithas Wyliadwraeth (Digital Citizenship and Surveillance Society)', sy'n edrych ar natur dinasyddiaeth ddigidol, yn ogystal â'r cyfleoedd a'r heriau perthnasol, yng ngoleuni mesurau gwyliadwriaeth y llywodraeth a ddatgelwyd gan y chwythwr chwiban Edward Snowden.

Bydd y gynhadledd yn cyflwyno canfyddiadau rhagarweiniol y gwaith ymchwil, ac yn ymhelaethu ar themâu allweddol sy'n llunio ac yn amlygu strwythurau llywodraethu cyfoes mewn 'cymdeithas wyliadwriaeth', gan gynnwys polisi, technoleg, cymdeithas sifil a chyfryngau newyddion.

Y gynhadledd fydd y digwyddiad mawr cyntaf ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, lle bydd ymgyrchwyr hawliau digidol, ysgolheigion ac arbenigwyr technoleg yn trafod goblygiadau'r Bil Pwerau Ymchwilio newydd (neu'r 'Siarter Busnesu' (Snooper's Charter) yn ôl y beirniaid).

Siaradwyr:
 - Ben Wizner (Undeb Hawliau Sifil America, cyfreithiwr Edward Snowden)
- Gus Hosein (Privacy International)
- Annie Machon (cyn-swyddog gwybodaeth MI5 a chwythwr chwiban)
- Javier Diaz (Open Rights Group)
- Tony Bunyan (Statewatch)
- James Ball (The Guardian)
- Gavin MacFadyen (y Ganolfan Newyddiaduraeth Ymchwiliol / Centre for Investigative Journalism)
-Mark Andrejevic (Coleg Ponoma)
- Kirstie Ball (y Brifysgol Agored)
- Andrew Clement (Prifysgol Toronto)
- Ian Brown (Prifysgol Rhydychen)
- Seda Guerses (Prifysgol Efrog Newydd)

Bydd yn cynnwys myfyrdodau a chyflwyniadau academaidd, cyfarfodydd strategaeth ar ddiwygio polisi, yn ogystal â hacathon i ddatblygu offer technegol ar gyfer cyfathrebu diogel.

Yn ogystal, bydd sesiwn o'r enw 'Diogelwch Gwybodaeth i Newyddiadurwyr' (Information Security for Journalists) yn cyflwyno offer a strategaethau y gall newyddiadurwyr eu defnyddio i gyfathrebu'n well ar-lein ymysg ei gilydd a gyda'u ffynonellau.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cyflwyno 'Archif Goruchwyliaeth Cludadwy Snowden' - sef archif ar y we y gellir chwilio am destun ynddo a grëwyd gan Canadian Journalists for Free Expression ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Toronto.

Mae'r gwaith ymchwil sy'n sail i'r gynhadledd yn cael ei gynnal yn Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd (JOMEC), dan arweiniad Dr Arne Hintz, Dr Lina Dencik, yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, yr Athro Ian Brown (Prifysgol Rhydychen) a Dr Michael Rogers (Prifysgol Dechnegol Delft).

Mae gwybodaeth am gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar gael yma.

Cewch weld rhaglen lawn y gynhadledd yma.

Rhannu’r stori hon