Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth hael am antur ym Mhatagonia

11 Ionawr 2018

Mae Ysgol y Gymraeg, trwy haelioni Banc Santander, yn cynnig pum ysgoloriaeth gwerth £2,000 yr un i alluogi myfyrwyr israddedig i deithio i Batagonia am fis o brofiad gwaith yn ystod haf 2018.

Mae’r Ysgoloriaethau yn agored i bob myfyriwr israddedig a fydd yn parhau yn fyfyriwr israddedig yn yr Ysgol y flwyddyn academaidd 2018-2019.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cefnogi gwaith ‘Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut, Patagonia’.  Cynllun yw hwn sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru-Ariannin a Menter Iaith Patagonia. Arweinydd y Cynllun yw Mr Rhisiart Arwel, sydd hefyd yn aelod o staff yr Ysgol. Mae’r profiad gwaith yn amrywiol ac yn cynnwys gweithgareddau megis cynorthwyo mewn ysgolion meithrin a chynradd ac mewn dosbarthiadau dysgu Cymraeg i oedolion.

Cynhelir sesiwn wybodaeth gyda Dr Jon Morris ac ymgeiswyr llwyddiannus y llynedd  yn Ystafell 1.72 ddydd Llun 29 Ionawr am 13.10.

I geisio am ysgoloriaeth, llenwch ffurflen gais, sydd ar gael gan Cadi Thomas (ThomasCR9@cardiff.ac.uk), a’i dychwelyd drwy e-bost i Swyddfa’r Ysgol erbyn 5 Chwefror 2018 am 5.00pm. Dylech gysylltu â’ch tiwtor personol cyn gynted ag y bo modd er mwyn gofyn iddynt fod yn ganolwr ichi.

Mae croeso ichi gysylltu â Dr Jon Morris (MorrisJ17@caerdydd.ac.uk) os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.