Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect sychwyr gwlyb i atal heintiau difrifol yn ennill gwobr arloesedd

18 Mehefin 2015

Business award
Dr Allen Hanouka, GAMA Healthcare; David Baynes, Prif Swyddog Gweithredol, IP Group Plc; yr Athro Jean-Yves Maillard, yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol; Dr Guy Braverman, GAMA Healthcare; Harsha Siani, Gweithiwr Cyswllt KTP.

Prosiect sychwyr gwlyb i atal heintiau difrifol yn ennill gwobr arloesedd  

Mae partneriaeth a ddatblygodd sychwyr gwlyb clinigol i fynd i'r afael â heintiau difrifol, neu'r 'Superbug', mewn ysbytai wedi ennill Gwobr Arloesedd Busnes yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2015, a noddir gan gwmni cyfreithiol blaenllaw Geldards ac IP Group.

Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) rhwng Prifysgol Caerdydd a GAMA Healthcare wedi galluogi'r cwmni i gynnal ei waith datblygu cynnyrch a pharhau ar flaen y gad o ran arloesedd. Ar yr un pryd, mae hyn wedi cryfhau enw da rhyngwladol y Brifysgol ym maes ymchwil i reoli heintiau.

Roedd angen prawf clinigol ar GAMA, un o brif gwmnïau sychwyr gwlyb clinigol y DU, bod eu sychwyr gwrthfeicrobaidd yn effeithiol yn erbyn yr hyn a elwir yn 'superbug', Clostridium difficile.

Dyfarnwyd grant gan Innovate UK ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i gefnogi prosiect dwy flynedd gyda'r Athro Jean-Yves Maillard, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.

Cafodd Gweithiwr Cyswllt y Bartneriaeth ei recriwtio a chwaraeodd ran allweddol wrth drosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd yr Athro Maillard i GAMA, i sefydlu a chynnal treialon clinigol, yn ogystal â hyfforddi staff ar draws sawl adran.  Helpodd hyn GAMA i ddatblygu'r gyfres nesaf o gynhyrchion a gosod y sylfaen ar gyfer ymchwil ac adnoddau datblygu mewnol.

Meddai Harsha Siani, Gweithiwr Cyswllt y Bartneriaeth: "Trosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd gwyddonol o Brifysgol Caerdydd i GAMA oedd fy ngwaith. Drwy'r Bartneriaeth, roedd GAMA yn gallu gwneud yn siŵr bod eu cynnyrch yn cydymffurfio â Rheoliadau'r UE yn ogystal â bodloni amodau prawf llym sy'n dangos yn well pa ddefnydd a gaiff ei wneud o'r cynnyrch. Rhoddodd y prosiect lawer o gyfleoedd unigryw i mi gan gynnwys teithio i Tsieina i addysgu staff yng Nghanolfan Rheoli ac Atal Clefydau Tsieina (CDC; Hangzhou), sydd wedi cynnig rhagor o gyfleoedd ar gyfer gwaith ymchwil ar y cyd rhwng CDC, Prifysgol Caerdydd a GAMA Healthcare."

Wrth groesawu'r wobr, dywedodd yr Athro Maillard: "Mae rhyngweithio â diwydiant yn hollbwysig er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddefnyddio ymchwil 'yn y byd go iawn' a chreu arloesedd llawn effaith yma. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod y cynnyrch a ddefnyddir fel rhan o weithdrefn rheoli heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd yn gallu gwneud gwahaniaeth a helpu i reoli heintiau pathogenau trafferthus."

"Bydd y bartneriaeth yn cryfhau enw da rhyngwladol Prifysgol Caerdydd ym maes rheoli heintiau, yn enwedig o ran defnyddio cynhyrchion sychwyr gwrthficrobaidd."

Dywedodd Guy Braverman, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd GAMA Healthcare: "Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth hyfryd o'r gefnogaeth wych a gawsom gan Brifysgol Caerdydd o ran gwella ein gwybodaeth ac ymgorffori adnoddau sy'n ein galluogi i barhau i arwain y farchnad yn y DU. Mae gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd wedi ein galluogi i fod yn rhan annatod o waith ymchwil arloesol."

Mae Innovate UK wedi canmol y cydweithrediad i'r cymylau drwy ddisgrifio'r prosiect fel un 'rhagorol'.

Cyflwynwyd y wobr i'r Athro Jean-Yves Maillard (Ysgol Fferylliaeth), Dr Guy Braverman a Dr Allen Hanouka (GAMA Healthcare Cyf.) a Harsha Siani (Gweithiwr Cyswllt y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth) gan David Baynes, Prif Swyddog Gweithredu, IP Group Ccc.