Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth PhD newydd mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru

21 Rhagfyr 2017

Mae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Ysgol y Gymraeg yn falch o gyhoeddi ysgoloriaeth ESRC newydd ar gyfer prosiect PhD ar sosioieithyddiaeth y Gymraeg.

Bydd y prosiect yn cael ei goruchwylio gan Dr Mercedes Durham (Canolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu) a Dr Jonathan Morris (Ysgol y Gymraeg) mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru.

Teitl y prosiect yw: Caffael Cymhwysedd Sosioieithyddol mewn cyd-destun trochi yng Nghymru. Trwy edrych ar wahanol ffurfiau llafar y mae disgyblion mewn ysgolion Cymraeg yn meddu arnynt, bydd y prosiect yn ateb y cwestiynau ymchwil canlynol:

  • I ba raddau y ceir amrywio rhwng cyweiriau’r disgyblion?
  • I ba raddau y mae ffactorau cymdeithasol (iaith yr aelwyd, defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned, defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol) yn effeithio ar gaffael cymhwysedd sosioieithyddol?

Bydd yr ysgoloriaeth yn dechrau ym mis Hydref 2018. Bydd yn talu am ffioedd dysgu yn ogystal â chostau cynhaliaeth (£14,553 y flwyddyn ar gyfer 2017/18 ar gyfer myfyrwyr amser llawn). Bydd y dyfarniad ar gael naill ai fel ysgoloriaeth 1 + 3 neu +3. Mae ysgoloriaeth 1 + 3 yn darparu cyllid am bedair blynedd (neu gyfwerth ar gyfer myfyrwyr rhan-amser). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cwblhau gradd Meistr hyfforddiant ymchwil a ddilynir gan dair blynedd o gyllid ymchwil ar gyfer ymchwil PhD. Mae ysgoloriaeth +3 yn darparu cyllid ar gyfer astudiaeth ymchwil PhD tair blynedd yn unig (neu gyfwerth ar gyfer myfyrwyr rhan-amser).

Dylai fod gan ymgeiswyr gefndir academaidd rhagorol yn y gwyddorau cymdeithasol yn ogystal â gradd dosbarth gyntaf neu ail ddosbarth uwch. Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd wedi cwblhau gradd Meistr berthnasol (neu sy’n meddu ar brofiad cyfatebol o hyfforddiant ymchwil) yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad +3.

Cysylltwch ag un o oruchwylwyr y prosiect am wybodaeth bellach a chyn ichi wneud cais ffurfiol:

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Chwefror 2018 (16:00).

Rhannu’r stori hon