Ewch i’r prif gynnwys

Dau gynfyfyriwr wedi’u dewis ar gyfer Cyfansoddi: Cymru (Composition: Wales)

20 Rhagfyr 2017

Musical score

Mae sgôr dau o raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi’u dewis i’w chwarae mewn digwyddiad arddangos cyfansoddwyr.

Mae Lucy McPhee, a raddiodd yn ddiweddar â gradd Meistr, a Gareth Churchill, gafodd ddoethuriaeth mewn Cyfansoddi yn ddiweddar, yn ddau ymhlith saith o gyfansoddwyr sydd wedi’u dewis ar gyfer prosiect Cyfansoddi: Cymru.  Caiff y sgorau a ddewiswyd eu perfformio mewn digwyddiad sy’n dathlu gwaith gan gyfansoddwyr o Gymru, a chafodd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd Hoddinott y BBC ym mis Chwefror 2018.

Mae Cyfansoddi: Cymru yn brosiect blynyddol a drefnir ar y cyd â Chyfansoddwyr Cymru (Composers of Wales), Tŷ Cerdd ac Urdd Gerddorol Cymru (Welsh Music Guild) a thrwy’r prosiect, gwahoddir cyfansoddwyr o Gymru i gyflwyno sgorau i’w hystyried gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Y dasg eleni oedd cyflwyno cyfansoddiad heb fod dros wyth munud o hyd, a fyddai’n ‘ffordd berffaith o agor cyngerdd neu encore ar gyfer cyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.’

Mae HardWired gan Lucy McPhee wedi’i osod mewn pedwar symudiad ac yn archwili gwahanol gymeriadau o’r teclyn dysgu sy’n seiliedig ar ffoneg, ‘Letterland’.

Wrth sôn am ei chyfansoddiad, dywedodd Lucy: “Mae iaith yn hanfodol i fywyd bob dydd ac rwyf wedi archwilio fy mhrofiadau personol o ddysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu gan ddefnyddio fy hoff gymeriadau o ‘Letterland’. Mae Symudiad II, a gyflwynais i Cyfansoddi: Cymru, yn archwilio personoliaeth yr Hairy Hat Man.”

Mae Concentrations, a gyflwynwyd gan Gareth Churchill, yn ddarn a ysbrydolwyd gan drefn eponymaidd o gerddi gan Philip Gross yn ei gasgliad, The Water Table. Eglura Gareth: “Sylwais ar sut y gallai dilyniant o finiaturau rhyng-gysylltiedig a datblygiadol lunio corff cydlynol, mwy o faint.

Mae pob rhan o Concentrations yn archwilio dulliau cerddorol penodol mewn modd datblygiadol. Wrth i’r darn fynd yn ei flaen, mae’r darnau hwyrach yn cyfeirio at ddeunydd cynharach, gan roi ymdeimlad o gydlyniant i’r cyfanwaith.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.