Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn efelychu hinsawdd Game of Thrones

20 Rhagfyr 2017

Game of Thrones set in Northern Ireland

Mae gwyddonwyr o Brifysgolion Bryste, Caerdydd, a Southampton yn defnyddio Model Hinsawdd i efelychu ac ystyried hinsawdd byd Game of Thrones.

Yn ôl y canlyniadau, mae gan The Wall, lle gwarchodir gwlad Westeros rhag y White Walkers, hinsawdd yn y gaeaf sy’n debyg i’r Lapdir, ac mae gan Casterly Rock, cadarnle’r Lannisters cynllwyngar, hinsawdd sy’n debyg i Houston, Texas a Changsha yn Tseina.

Mae’r cyflymderau gwynt a chyfarwyddiadau a ragwelwyd gan y model hinsawdd yn esbonio ffenomenau megis goruchafiaeth yr Iron Fleet ar y moroedd, cynlluniau tebygol llu o ddreigiau o Essos ar gyfer ymosod, a’r llwybrau masnachu rhwng Westeros a’r Free Cities ar draws y Narrow Sea.  Mae’r tymereddau a ragdybiwyd gan y model hinsawdd yn dynodi parthau gaeafgysgu’r White Walkers yn yr haf.

Cyhoeddir y canlyniadau llawn mewn erthygl cylchgrawn ffug a ysgrifennwyd gan Samwell Tarly. Dengys Samwell y gellir egluro’r tymhorau estynedig o ganlyniad i ‘ddymchwel’ gogwydd echel y blaned, sy’n troelli, wrth iddi deithio o amgylch yr haul yn y fath fodd bod yr un hemisffer yn wynebu’r haul bob amser.  Mae hefyd yn modelu’r cynhesu byd-eang fyddai'n digwydd pe bai crynodiadau nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer yn dyblu (oherwydd y cynnydd mewn carbon deuocsid ac allyriadau methan gan ddreigiau a gorddefnyddio tanau gwyllt).  Mae ei amcangyfrif y byddai cynhesu byd eang yn cynyddu 2.1oC yn sgil dyblu carbon deuocsid (“Sensitifrwydd Hinsawdd” byd Game of Thrones) o fewn yr amrediad a ragwelir gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer y Ddaear ‘go iawn’, o 1.5 i 4.5 oC.

Yn ôl yr Athro Dan Lunt o Ysgol Gwyddorau Daearyddol Prifysgol Bryste: “Gan fod modelau hinsawdd yn seiliedig ar brosesau gwyddonol sylfaenol, nid yn unig eu bod yn gallu efelychu hinsawdd y ddaear fodern, mae modd eu haddasu'n hawdd hefyd i efelychu unrhyw blaned, real neu ddychmygol, cyhyd â bod safleoedd ac uchder gwaelodol y cyfandiroedd, a dyfnder y cefnforoedd, yn hysbys.”

Ychwanegodd yr Athro Carrie Lear o Brifysgol Caerdydd: “Ychydig o hwyl yw'r gwaith yma, ond mae ochr ddifrifol iddo. Mae modelau hinsawdd yn efelychu prosesau ffisegol go iawn sy'n gweithredu mewn hinsoddau sy’n oeri yn ogystal â rhai sy’n cynhesu. Mae gwyddonwyr sy’n gweithio ar brosiect SWEET yn defnyddio technegau newydd cyffrous i ail-greu hinsawdd y Ddaear pan oedd hi mewn cyflyrau eithriadol o boeth yn y gorffennol.  Maen nhw'n defnyddio'r wybodaeth yma i brofi modelau hinsawdd modern blaengar o dan amodau crynodiadau carbon deuocsid atmosfferig uchel, tebyg i'r rhai a ddisgwylir erbyn diwedd y ganrif hon.

Yn ôlyr Athro Gavin Foster, o Brifysgol Southampton: “Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd wedi dangos y gall modelau hinsawdd llwyddiannus efelychu hinsoddau o fyd rhewedig yr Oes Iâ ddiwethaf, gan gynnwys cynhesrwydd dwys ‘tŷ gwydr Eocene’, 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Defnyddir yr un modelau hyn wedyn i efelychu hinsawdd ein planed yn y dyfodol.

Game of Thrones

Professor Dan Lunt, from the School of Geographical Sciences at the University of Bristol said: “Because climate models are based on fundamental scientific processes, they are able not only to simulate the climate of the modern Earth, but can also be easily adapted to simulate any planet, real or imagined, so long as the underlying continental positions and heights, and ocean depths are known.”

Professor Carrie Lear from Cardiff University added: “This work is a bit of fun, but it does have a serious side. Climate models simulate real physical processes which operate in both cooling and warming climates. Scientists working on the SWEET project are using exciting novel techniques to reconstruct the climate of super-warm states of Earth’s past. They are using this information to test state-of-the-art climate models under conditions of high atmospheric carbon dioxide concentrations, similar to those expected by the end of this century.

Professor Gavin Foster, from the University of Southampton, said: “The Intergovernmental Panel on Climate Change have shown that climate models can successfully simulate climates from the freezing world of the last Ice Age, to the intense warmth of the ‘Eocene greenhouse’, 50 million years ago. These same models are then used to simulate the future climate of our planet.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.